Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/12

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

feirniaid, ond nid yw pawb gynyrchwyr. A dyna y rheswm, fe ddichon, y gwna unrhyw un y tro yn feirniad mewn Eisteddfod. Gall pob un o honom weiddi "Bw," neu" "Encore," yn ol fel y byddom yn barnu, ond ffigiwr gwael a dorai y nifer mwyaf o honom ar y llwyfan. Dengys hyn nad ydyw y ddawn i gynhyrchu yn gyfled a'r ddawn i farnu. Nid oes, yr wyf yn meddwl, angen awdurdod uwch i benderfynu y pwnc hwn am. byth na'r eiddo Wil Bryan, Yr wyf yn cofio yn dda sylw o'i eiddo (yr oedd hyn cyn iddo fyned oddi-cartref) i'r perwyl canlynol: "Wyddost di? er nad ydw i ond youngster, yr ydw i wedi dablo, i radde mwy neu lai, fel y byddan nhw'n deyd, efo agos i bob art an' science—i fynu o'r noble art of self-defence hyd at ysgrifenu i'r wasg, ond dydw i'n gwbod am ddim y tores i fwy o sorry ffgure efo fo na dawnsio, er fod gen i dipyn o predilection at hyny. Er i mi dreio ngore—ar y mhen fy hun, wrth gwrs, achos mi fase'n degrading myn'd at dancing master —er i mi dreio ngore fedres i neyd na rhych na gwellt o hono. Erbyn hyn dydw i ddim yn fecsio, achos os ydi dyn yn edrach yn soft mewn rhywbeth, pan fydd o yn dawnsio mae hyny. Fuost di rioed ar ddiwrnod y Ladies' Club, pan fydd yno ganodd yn dawnsio ar y green, yn rhoi dy fysedd yn dy glustie rhag clywed y band, er mwyn i fi gael gwel'd pa argraff a neiff yr olwg arnyn nhw ar dy feddwl di? Treia di. a mi ffeindi y bydd raid i ti dynu dy fysedd o dy glustia'n syth, neu fyn'd i gredu fod universal insanity wedi setio i fewn. Mi gymra fy llw os bu Dafydd yn edrach yn sofi rw dro mai pan oedd o'n dawnsio o flaen yr arch oedd hyny, a fod gyno fo g'wilydd o'i galon cofio am y peth pan sobrodd o i lawr. Ond dene oeddwn i'n myn'd i ddeyd—er na fedres i rioed neyd dim byd o honi efo'r dawnsio 'ma, ro i ddim i fynu i neb fel critic ar yr art. Mi wn mewn mynud os bydd rhwfun yn gneyd mistake ne yn ddiffygiol o grace. Does dim isio, wyddost, i ddyn fod yn medryd gneyd y peth ei hun i allu barnu a ydi erill yn'i neyd o'n iawn, ne mi fydde raid i ti fyn'd yn brentis o grydd cyn y medref ti wbod ydi dy sgidie di yn dy ffitio, ac a ydyn nhw up to dick,"

Gorchwyl hawdd, mewn cymhariaeth, oedd i mi farnu a oedd Hunangofiant Rhys Lewis yn werth ei argraffu, ond pwnc arall hollol ydyw a allaf fi afael yn mhen edef yr hanes hwnw a'i ddilyn mewn cysondeb, Bydd genyf fi rai anfanteision nad