Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/149

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chi'n ddefnyddiol iawn yrwan efo'r Ysgol Sul. Ond rywfodd yr ydach chi'n chware efo pob peth——yn chware efo'r pethe mwya' difrifol, a mi wn eich bod wedi brifo Phillips yn dost heno. Yr ydach chi ar fai, Thomas."

"Chware, Dafydd Dafis?" ebe Didymus, "onid chware y mae pawb? onid chware ydyw pobpeth y bywyd yma?"

Na ato Duw!" ebe Dafydd yn gyffrous. Nid chware ydi pobpeth, ne' be ddaw o hono i! Ydach chi ddim yn meddwl deyd mai chware ydi crefydd? mai chware ydi'r byd mawr sydd o'n blaen ? 'Rwyf yn synu atoch chi, Thomas, yn siarad fel yna."

Yr wyf yn meddwl fy mod mor ddifrifol a'r rhan fwyaf o honom y dyddiau hyn," ebe Didymus, "ond fod llai o ragrith ynof. 'Rwyf wedi laru ar hymbygoliaeth pobol. Mi gymraf fy llw fy mod gystal Methodist, ac mor deyrngarol i'r Hen Gorph a neb sydd yn fyw. Pan oedd fy mam yn fyw, a minau yn grwmffast o hogyn, fe fu Henry Rees, ar noson waith, yn lletya yn ein tŷ ni, ac 'rwyf yn cofio i mi lanhau ei esgidiau, a mi rois bolish iawn arnynt—mi fasech yn gallu gwel'd eich llun ynddynt. A does dim ag yr wyf yn teimlo mor falch o hono y funyd hon, ag i mi gael y fraint i lanhau esgidiau Henry Rees. Ac y mae degau o'n pregethwyrannhraethol lai yn mhob ystyr na Henry Rees, ag y teimlwn hi yn anrhydedd gael glanhau eu hesgidiau. Rhowch i mi bregethwr—waeth gen'i pa mor fychan a fydd o ran ei alluoedd—ond iddo fod yn onest, selog, unplyg, difalch, yn meddwl mwy am iachawdwriaeth pechaduriaid nag am ei fi fawr ei hun, a mi dynaf fy het iddo, ac a lanhâf ei esgidiau. Ond 'dallai i ddim dyoddef humbugs. Ddyn anwyl! ddeng mlynedd ar hugain yn ol, nodweddion pregethwr oeddynt—gostyngeiddrwydd, sêl, duwioldeb, ac awydd angherddol am achub pechaduriaid, ond yn awr, yr uniform ydyw y nodwedd, ac y mae pechaduriaid yn eu hadnabod ac yn ffoi oddiwrth eu gwisgoedd. Pan fydd eisiau dal lladron a mwrddwyr, nid gŵr y gôt lâs, yn gyffredin, a ddanfonir at y gwaith, ond detective in plain clothes. Yn siwr i chwi, Dafydd Dafis, y mae eisiau mwy o'r detectives in plain clothes yn ein pwlpudau y dyddiau hyn, a warant a sêl y Llywodraeth ganddynt i ddal dynion. Yr wyf yn sicr mai un o ddynion yr uniform ydyw Mr. Simon, a thra y bydd ef yn edmygu ei fenyg, a'i frethyn, a'i drimins, y