Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/148

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr oedd, meddai, yn shafio bob boreu Sul, a 'rydwi'n cofio, wrth i ni fyn'd i oedfa'r nos, pan oeddan ni wedi myn'd cyn belled a siop Start, y druggist, i Mr. Simon gofio ei fod wedi gadael ei fenyg ar y bwrdd yn y tŷ, ac er ein bod dipyn ar ol yr amser, fe fynodd fyn'd yn ol i'w cyrchu. 'Roeddwn i braidd yn ddig wrtho am hyny. Ac yr ydw' i'n cofio hefyd iddo wneud y sylw, fod un diffyg yn festri'n capel ni—sef nad oedd yno yr un glass, crib, a brwsh gwallt."

Dafydd Dafis," ebe Didymus, "gwnewch note o nyna, dydw i ddim wedi nodi y diffyg yna er's talwm? Ond gadewch i ni fyn'd yn mlaen. Mor hawdd ydyw camfarnu dyn, at a distance! Mae Mr. Simon yn amgenäch dyn o lawer nag y tybiais i ei fod. Yr ydych chwi, Phillips, ar ol cael y fraint o fod yn ei gymdeithas, wedi cael mantais i'w 'nabod yn drwyadl. Goddefwch i mi ofyn cwestiwn neu ddau arall yn ei gylch—a chadw mewn côf, fel y d'wedais o'r blaen, amrywiol nodweddion a thueddiadau aelodau a chynulleidfa Bethel—a ydyw Mr. Simon—ag i chwi ro'i barn onest—yn hoff o parties? a oes ganddo lygad i wneud arian? a fedr o chware cricet? a fedr o chware cardiau? a fedr o chware billiards? neu, mewn gair, ydio'n perfect humbug?"

Neidiodd yr Eos ar ei draed, gafaelodd yn ffyrnig yn ei het, a chan edrych yn ddirmygus ar Didymus, ebe fe—

"Yr humbug mwya' adwaenes i ydach chi, Thomas. Wyr neb lle i'ch cael chi, a phan mae rhwfun yn meddwl y'ch bod chi'n fwya' difrifol, yr adeg hono yr ydach chi'n cellwair fwya'. 'Rydach chi'n trin pobol cystal a gwell na chi'ch hun, fel bydae nhw blant, ac yn meddwl y'ch hun yn rhwfun. Mi gymra fy llŵ bydase ni'n meddwl am gael yr Apostol Paul yn fugail i Bethel, y buasech chi'n gneud gwawd o'r idea. ('Certainly,' ebe Didymus). 'Rydach chi'n sôn llawer am hymbygoliaeth, ond er's pan ydw' i'n flaenor, 'does neb wedi fy hymbygio i fel chi, a dalltwch, dydw i ddim am ddyodde dim chwaneg o hyny, ac os ydi Dafydd Dafis am ddal i'ch cefnogi chi—wel, boed felly—” a rhuthrodd yr Eos allan o'r tŷ, a chwarddodd Didymus yn uchel.

Thomas," ebe Dafydd Dafis, "wn i beth i feddwl o honoch chi. Mae gen' i feddwl uchel o'ch galluoedd chi, a mi wn y'ch bod chi'n llawer mwy craff na fi, ac y gallech chi fod yn llawer mwy defnyddiol gyda'r achos bydae chi'n dewis—er y'ch bod