Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/147

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

adnoddau ei feddwl. Ac oddiwrth y pethau yr ydym wedi eu clywed genych chwi, Phillips, mae'n rhaid i mi gyfaddef fod Mr. Simon yn amgenach dyn nag y darfu i mi feddwl ei fod wrth ei wrando yn pregethu. Mae'n ddrwg gen' i na ddois i acw i gael ymgom âg ef."

'Mae'n ddrwg gen' inau hefyd, ac yr oeddwn yn eich disgwyl o hyd," ebe'r Eos.

"Dydio ddim dyben rhoi coel ar first impressions," ychwanegai Didymus. "A oedd Mr. Simon yn gwneud argraph arnoch, Phillips, ei fod wedi troi tipyn mewn cymdeithas―hyny ydyw, a oedd o'n dangos fod ganddo barch iddo ef ei hun—yn ofalus am ei ymddangosiad—ac a allech chwi ymddiried yn ei ymddygiad mewn cymdeithas respectable? oblegid, erbyn hyn, y mae peth felly yn bwysig, ac nid gwiw i ni feddwl am fugail diofal, hen ffasiwn, slyfenllyd—mae'r dyddiau hyny drosodd— mae'r byd wedi newid, a phwys yn cael ei ro'i ar ymddygiad a manners."

Wel," ebe'r Eos, "'roeddwn i braidd yn meddwl fod Mr. Simon yn rhy mannerly—."

"Does dim posib i ddyn fod yn rhy mannerly yn y dyddiau hyn," ebe Didymus, cyn i'r Eos orphen y frawddeg.

"Hwyrach hyny, wir," ebe'r Eos, "ond dyna oeddwn i braidd yn ofni fod Mr. Simon yn rhy foneddigaidd i ni—pobl Bethel."

"Does dim rhy foneddigaidd i fod," ebe Didymus drachefn, "Wel, dyna ydw' i'n feddwl wrth ddweyd ei fod yn rhy foneddigaidd yr oedd o rywfodd yn diolch gormod gen'i. Daswn i ddim ond yn estyn y pot mwstard iddo, neu yn ei helpio i ro'i ei gôt ucha' am dano, yr oedd o'n deyd, 'Thank you,'" ebe'r Eos.

"Very good — arwydd o good breeding," ebe Didymus. "Ddaru chwi ddim sylwi, Phillips, i Mr. Simon ro'i rhywbeth yn llaw'r forwyn cyn myn'd i ffordd?"

"Weles i mo'no'n rhoi dim iddi," ebe'r Eos.

"Mi wyddwn hyny," ebe Didymus, "naiff yr un boneddwr adael i neb ei weld yn rhoi dim i'r forwyn, ond gofynwch chwi iddi pan ewch gartref, a mi gewch, 'rwy'n siwr, ei fod wedi rhoi chwech neu swllt iddi."

"Synwn i ddim," ebe'r Eos. "A chyda golwg ar y peth arall oeddach chi'n ofyn—a oedd o'n ofalus o'i ymddangosiad—