Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/146

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn dipyn o lenor. Tybed oes tuedd yn Mr. Simon at lenyddiaeth?"

"Rwyf yn siwr ei fod yn llenor," ebe'r Eos, "er na ddaru o ddim dweyd hyny wrthyf. Yn ddamweiniol fe ddywedodd ei fod eisiau myn'd adre' yn gynar, am fod ganddo waith beirniadu rhyw draethawd mewn tipyn o 'Steddfod oedd i'w chynal yr wythnos hono."

"'Ddaru Mr. Simon, mae'n debyg," ebe Didymus, "ddim digwydd dyweyd wrthych beth oedd testyn y traethawd? Fe fuasai hyny yn fantais i ni ddeall yn mha gangen o lenyddiaeth yr ystyrir Mr. Simon yn feirniad."

"'Do, neno dyn, os medra 'i gofio fo," ebe'r Eos. "Rhwbeth am y Diluw, ac ar y cwestiwn a oedd yr Eliphant yn yr arch ai nad oedd—rhwbeth fel ene."

"Testyn rhagorol, a dyrus hefyd," ebe Didymus, "'rwyf wedi pondro llawer ar y pwnc yna fy hun. Ond gresyn na fuasent wedi ychwanegu—pa un a oedd y whale yn yr arch ai nad oedd. Mae cryn ddyryswch yn nghylch y cwestiwn yna hyd yn hyn, a phe gellid ei benderfynu, taflai lawer o oleuni ar faint yr arch, a'r hyn a feddylir wrth 'gyfudd.' Ond hyn sydd eglur—yr ystyrir Mr. Simon yn ei gartre' yn naturiaethwr ac yn hanesyddwr, os nad yn ddaearegwr hefyd. Faint oedd Ꭹ wobr gynygid ar destyn fel yna, tybed? Ddaru Mr. Simon ddim digwydd sôn hwyrach?"

“Fe ddangosodd i mi'r program, ac os ydw i'n cofio'n dda, pum' swllt oedd y wobr," ebe'r Eos.

"Dyna mistake eto," ebe Didymus, "ar destyn o'r natur yna, fe ddylase'r wobr fod yn saith a chwech. Sut y gellir disgwyl i'n llenorion goreu gystadlu ar destyn o'r fath, pan na chynygir ond pum' swllt o wobr? Ond mae'n amlwg fod pethau yn gwella. Mae'n dda gen' i ddeall fod Mr. Simon yn llenor, ond fasen ni ddim yn gwybod hyny oni bae i chwi sôn."

Yr oedd Dafydd Dafis yn fud, ac ni allai ddyfalu amcan Didymus yn siarad yn y modd yma, pryd yr ychwanegodd Didymus—

"Mantais fawr ydyw cael ymddyddan â gŵr fel Mr. Simon i gael allan dueddiadau ei feddwl a'i ragoriaethau personol. Yn y pwlpud y mae dyn megis at a distance, a dim ond y pregethwr yn d'od i'r golwg, ac yn aml nid ydych yn caniod hwnw. Rhaid dyfod at ddyn a chymdeithasu ag ef, i gael allan