Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/145

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eu cymeradwyaeth o'i ddewisiad, paham hefyd nad ellir ymddiried i'r blaenor ddewis y bugail? Y blaenor ydyw cynrychiolydd yr eglwys, ac os na saif yr eglwys yn gadarn dros air y blaenor, nid ydyw yn deilwng o'r enw eglwys. Ar yr un pryd yr wyf yn credu y dylai y blaenor, wrth ddewis bugail, fod in touch efo pob chwaeth yn yr eglwys. Fy mhwnc i fy hun ydyw i'r bugail fod yn bregethwr da—pwnc un arall ydyw, iddo fedru cadw seiat. Ond nid dyna bwnc pawb. Er nad wyf yn gerddor fy hun, nac yn hidio rhyw lawer am gerddoriaeth, nid allaf gau fy llygaid, ac yn enwedig fy nghlustiau, fod cerddoriaeth yu bwnc swnfawr gan ddosbarth helaeth o'n heglwys. Yn awr, a chaniatâu fod Mr. Simon yn ŵr ymadroddus, ac yn fedrus ar gadw seiat, nid wyf yn meddwl y rhown i fy vote iddo, os nad ydyw yn gerddor gweddol.”

Edrychodd yr Eos am foment yn ngwyneb Didymus, i sicrhau ei hun a oedd efe yn peidio cellwair, a chan nad oedd gewyn yn symud i arwyddo dim amgen na'r difrifwch mwyaf, atebodd yr Eos yn hoew—

"Cerddor gweddol!—gallaf eich sicrhau fod Mr. Simon yn gerddor campus. Cefais ymgom hir efo fo ar gerddoriaeth gysegredig, ac ni welais bregethwr erioed mor gyfarwydd yn y pwnc. Yr oedd canu Bethel wedi ei foddhau yn fawr, ac yr oedd yn dweyd ei fod wedi bod yn help iddo bregethu, a ches ambell awgrym ganddo sut i'w wella eto. Pe buasai pob pregethwr yn cymeryd cymaint o ddyddordeb mewn cerddoriaeth a Mr. Simon, fe fuasai gwedd wahanol ar ganu cynulleidfaol ein gwlad."

"Siwr iawn," ebe Didymus. 'Gresyn na fuasai y pregethwyr a phawb o honom yn gerddorion. Yr oeddwn yn edmygwr mawr o Rhys Lewis, ond yn ol ei gyfaddefiad ef ei hun, ni wyddai fwy am gerddoriaeth na brân. Ac er fod ei weinidogaeth ef wedi bod yn hynod lwyddianus, nid allwn beidio gwel'd y buasai yn fwy felly o lawer pe buasai yn gerddor. (Siriolai gwyneb yr Eos, ac ni chlywsai efe Didymus erioed yn siarad mor gall). Y gŵr goreu, yn ddiau, fel bugail, ydyw yr un y byddai y nifer fwyaf o ragoriaethau yn cydgyfarfod ynddo. Gwell ydyw i fugail fod yn dipyn o bobpeth nag yn un peth mawr. Mae yn perthyn i eglwys Bethel nifer bychan—a gresyn na fuasai yn fwy—o wŷr ieuainc â thipyn o chwaeth ynddynt at lenyddiaeth, a da a fyddai i'r bugail fod