Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/144

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

lwcus iawn bydae ni'n llwyddo i gael Mr. Simon yma fel gweinidog. Dyna fy meddwl i."

"Ddymunwn i," ebe Dafṛdd, "ddweyd dim am y gŵr i awgrymu nad ydi o'n bobpeth sydd arnom eisiau. Ac am fod yma angen am weinidog, 'does dim yn fwy amlwg. Yr wyf wedi blino ar fy sŵn fy hun yn seiat, a dydach chithe, Phillips, ddim yno ond rhyw unwaith bob deufis i r'oi help llaw. Mae'n bryd gwneud rhywbeth. Ar yr un pryd y mae eisiau cymeryd pwyll mawr, a gweddïo llawer am gyfarwyddyd ysbryd Duw. Dydi dewis bugail ddim yn rhywbeth i ruthro iddo fel buwch i gogwrn."

"'Does neb yn meddwl rhuthro, Dafydd Dafis," ebe'r Eos. "'Does neb yn meddwl setlo'r cwestiwn yfory na threnydd. Ond y mae'n bryd d'od â'r peth o flaen yr eglwys. Tybed nad ydym, er yr amser y bu Rhys Lewis farw, wedi cael digon o amser i gymeryd pwyll ac i ofyn am gyfarwyddyd? Os na ofalwn, fe aiff un oes heibio tra yr ydym ni yn sôn am gymeryd pwyll."

"Phillips," ebe Dafydd, "os da 'rwyf yn cofio, gyda chi yr oedd Mr. Simon yn aros pan fu yma. A ddaru i chi ro'i rhyw le i'r gŵr feddwl y byddai i'w enw gael ei ddwyn o flaen yr eglwys, ac a wyddoch chi rywbeth o hanes y gŵr?"

"Y cwbwl a wnes i," ebe'r Eos, "oedd siarad yn gyffredinol am ein sefyllfa fel eglwys, ac am yr angen yr oeddym ynddo am rywun i'n bugeilio. A mi ddigwyddais hefyd ofyn i Mr. Simon a oedd efe yn agored i dderbyn galwad pe buasai un o eglwysi y sir yn meddwl am dano."

"Ddaru chi ddim comitio'ch hun, na rhoi un math o addewid ynte. Phillips ?" gofynai Dafydd.

"Dim o'r fath beth," ebe'r Eos.

"Mae'n dda gen' i glywed hyny," ebe Dafydd.

“Mae'n dda gen' inau." ebe Didymus, "achos ddyliwn mai'r rheol ydyw, os bydd blaenor wedi rhoi ei air i bregethwr, y dewisir ef yn fugail, fod yr eglwys, fel mater o anrhydedd, yn rhwym o gynal i fynu air y blaenor, ac nid oes dim harm yn cael ei wneud wrth roi'r peth i lais yr eglwys, er mwyn dangos unfrydedd yr alwad. Ac y mae hyny yn eithaf rhesymol; oblegid os ymddiriedir i'r blaenor ddewis pregethwr ar gyfer pob Sabboth, ac os ydyw yr eglwys a'r gynulleidfa, wrth ddyfod i wrando'r pregethwr, megis yn codi eu llaw i ddangos