Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/143

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bob un o honynt ganu, ac nad allai y cynulleidfaoedd oddef pregethwr, os na fyddai yn gantwr. Ond erbyn hyn y mae ein gweinidogion fel rheol yn ymfoddloni ar draethu i ni wirioneddau mawr yr Efengyl heb fod ar gân. Wrth gwrs, y mae genym rai honourable exceptions. Dyna wythnos i'r Sabboth diweddaf, yr oedd genym bregethwr oedd hyd yn nod yn canu'r bennod."

Ni wnaeth yr Eos sylw o eiriau Didymus, a chan gyfeirio at Dafydd Dafis, ebe fe eilwaith

"Ddyliwn fod sylw wedi bod ar y fugeiliaeth, achos y mae'r pwnc hwnw mewn blas gan y pregethwyr bob amser?"

"Wel, naddo; fu yno yr un gair o sôn am y fugeiliaeth yn gyhoeddus," ebe Dafydd.

"Pa'm yr ydych yn pwysleisio'r gair 'cyhoeddus'?" ebe Didymus.

"Mi ddeydaf i chi'r rheswm," ebe Dafydd. "Fe ofynwyd cwestiwn i mi yno ddaru fy synu a fy mrifo. Fe ofynodd brawd i mi, ai gwir oedd yr hanes fod Mr. Obediah Simon yn debyg o gael ei alw yn fugail ar eglwys Bethel? ac ni chredai y brawd pan ddwedes na chlywais i air o sôn am hyny. Ond erbyn d'od gartre', a holi tipyn, 'rwyf yn dallt fod cryn siarad wedi bod am y gŵr heb yn wybod i mi."

"Yr ydych, fel fine, dipyn ar ol eich hoes," ebe Didymus. "Ond efo hyn yr wyf dipyn o'ch blaen chwi, ac wedi clywed er's dyddiau fod amryw o aelodau eglwys Bethel wedi syrthio newn cariad â Mr. Simon. Chwi wyddoch, Dafydd Dafis, fod cariad yn ddall, ac yn yr achos hwn, yn ddallach nag erioed, a phe buasai eich golwg chwithau dipyn byrach, hwyrach y buasech chwithau wedi syrthio mewn cariad â'r gŵr. Sut bynag, er mai her. lanc ydych, mi fuaswn yn disgwyl i chwi, fel hen gyfaill Bethel, wybod yn un o'r rhai cyntaf pwy oedd hi'n garu a phwy oedd hi ddim yn garu."

"'Does neb, tybed, a faidd wadu," ebe'r Eos, "nad ydym mewn gwir angen am fugail? Mae'n bryd i rywun symud yn y mater. Yr ydym wedi sôn a siarad digon, ac mae'n bryd i ni weithredu bellach. Ac fel 'rydach chi wedi hintio, y mae yma lawer o son wedi bod am Mr. Simon er pan fu o yma'n pregethu—mae pawb wedi ei leicio. Yn wir yr oeddwn i'n hoffi'r dyn yn fawr fy hun, a welais i 'run dyn cleniach na fo yn tŷ erioed. Ddyliwn i y gallen ni ystyried ein hunen yn