Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/142

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ceisiai ymddangos ac ymddwyn fel pe buasai yn y dymer oreu, ac ebe fe—

"Fath Gyfarfod Misol gawsoch chwi, Dafydd Dafis?"

"Rhagorol iawn," ebe Dafydd yn sychlyd.

"Felly 'n wir; oedd yno rwbeth neillduol?" gofynai yr Eos.

"Oedd," ebe Dafydd, "'roedd ysbryd doethineb a phwyll yn nodweddu pob ymdrafodaeth, a gwedd wyneb yr Arglwydd ar y weinidogaeth."

"Felly'n siwr," ebe'r Eos. "Hyfryd ydi clywed hyny. Fu yno rw sylw ar y gymanfa ganu?"

"Naddo," ebe Dafydd, "hyd yr ydw i'n cofio, ac os bu, ddaru mi ddim sylwi."

"Felly," ebe'r Eos. "Mae'n rhyfedd fod y naill Gyfarfod Misol ar ol y llall yn myn'd heibio heb sylw yn y byd yn cael ei wneud ar beth mor bwysig a'r gymanfa ganu. Pa bryd, tybed y daw cerddoriaeth i gael y sylw a ddylai gan y Cyfarfod Misol?"

"Yr wyf wedi bod yn meddwl lawer gwaith, Dafydd Dafis," ebai Didymus, "nad idea ddwl a fyddai cael côr heb neb yn perthyn iddo ond aelodau Cyfarfod Misol—male voices, wrth gwrs. Nid peth anmhosibl fyddai hyny. Peth hawdd a fyddai gwneud rheol na dderbynid neb yn aelod o'r Cyfarfod Misol os na fyddai wedi enill y certificate uchaf yn y Sol—ffa. Yr wyf yn siwr na rodai dim fwy o bleser i mi na gwel'd rhês o hen gonos fel chi, Dafydd Dafis, yn canu alto, ac 'rwyf yn siwr, pe ffurfid côr felly, y cae chwi wel'd lot o fiaenoriaid cerddorol nad ânt byth yrwan i Gyfarfod Misol, yn cyrchu i'r cyfarfodydd gyda chysondeb. Ac hwyrach y gallai y côr gipio ambell wobr mewn 'Steddfod, a drychwch chwi fel y codai hyny yr achos yn y sir ?"

Bu agos i Dafydd Dafis chwerthin wrth feddwl am rês o rai tebyg iddo ef ei hun yn canu alto, ac ebe'r Eos braidd yn sur

"Rhaid i chi, Thomas, gael gneud gwawd o bobpeth yn wastad. Ond waeth i chi heb siarad, 'does dim posib cael gan bregethwyr gymeryd dyddordeb mewn canu cynulleidfaol, ac o'u rhan nhw mi fase'r canu wedi myn'd i'r cŵn er's talwm."

"Mae'n rhaid i mi gyfaddef," ebe Didymus, "fod pregethwyr y Methodistiaid yn y blynyddoedd diweddaf wedi dirywio yn fawr yn eu canu. 'Rwyf yn cofio'r amser y gallai yn mron