Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/141

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD XXIII

DIDYMUS

GWEDDUS ydyw hysbysu nad oedd llawer o gariad brawdol yn cael ei wastraffu rhwng Eos Prydain a Didymus. Nid oedd Didymus yn orfanwl yn ei foesgarwch tuag at ei uwchafiaid mewn swyddi. Tybid yn lled gyffredinol fod ei ddeall yn gryfach na'i deimlad, a'i dalentau o radd uwch na'i ledneisrwydd. Pan ymddangosai llythyr pigog, cyrhaeddgar, ond dienw, yn y newyddiadur lleol, tadogid ef yn mron yn wastad ar Didymus. Yn wir, yr oedd cryn lawer o'r ysbryd "waeth gen' i befo neb" yn nodweddu Didymus. Ar yr un pryd yr oedd yn arwr—addolwr o'i goryn i'w sawdl, ac nid oedd neb mor fawr yn ei olwg a phregethwr mawr. Edmygai hefyd "yr annghyffredin," serch na byddai yn fawr. Nid oedd neb yn edmygu mwy ar Thomas a Barbara Bartley na Didymus. Yn ei dumewn chwarddai yn fynych ar ambell sylw o eiddo Dafydd Dafis; ond pe buasai raid, gwn y rhoisai efe ei fywyd i lawr dros Dafydd, am y credai fod Dafydd, yn yr hyn ydoedd, yn real. Yr oedd Didymus yn elyn annghymodlawn i'r hyn a olygai ef yn "hymbygoliaeth,” ond nid bob amser yr oedd efe yn gywir gyda golwg ar y pethau y dylid eu rhestru dan y penawd hwnw. Fel yr awgrymwyd yn barod, ni roddai Didymus bris uchel ar alluoedd yr Eos. Yr oedd yr Eos yn ymwybodol o hyny, a bu raid iddo ar fwy nag un achlysur ddyoddef yn ddistaw ambell i grafiad, a rhoi ambell air càs yn ei logell. Buasai yn well gan yr Eos le Didymus na'i bresenoldeb yn nhŷ Dafydd Dafis y noswaith yr wyf yn sôn am dani; ac eto ysgydwodd ddwylaw yn garedig åg ef oddiar yr egwyddor—"Dawch, mistar, rhag eich ofn." Ceisiai yr Eos, druan, fod ar delerau da â phob dyn, ac yr oedd efe yn naturiol o dymer hynaws. Nid ymddangosai Dafydd Dafis mor gyfeillgar ag arferol y noson hon, a rhwng pobpeth, nid oedd yr Eos mor gysurus ei feddwl ag y dymunasai fod. Pa fodd bynag,