Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/140

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fy llw, nad ydyw Mr. Simon yn awr, ac na fydd o byth, yn un o'r rhai hyny y dywedir am danynt eu bod wedi marw yn llefaru eto."

"Rydach chi'n rhy at o fod yn llawdrom, Thomas." ebe Dafydd. "Mae'n bur amlwg fod y dyn wedi pasio'n dda yma gyda'r bobol, os ydi'r siarad am dano mor ffafriol ag yr ydach chi'n deyd. A mae o wedi'i ordeinio hefyd rhaid fod rhwbeth ynddo, ne' chawse fo mo'i ordeinio.

"Chwi wyddoch, Dafydd Dafis," ebe Didymus, "fod llawer sgil i gael Wil i'w wely. Nid ydyw'r ffaith fod Mr. Simon wedi ei ordeinio yn profi ei fod ra Phôl na Pholos. Mi wn am ambell un digon dienaid a gysegrodd flynyddoedd, ac a aberthodd bob peth, o'r aderyn tô at y bustach, i enill y corn olew, ac wedi ei gael, na wnaeth ddim ond dibynu ar gorn gwddw; ac un o'r rhei'ny ydyw Obediah Simon—dyn yn dibynu ar nerth corn gwddw. Ond, wrth gwrs, mae'r dyn yn dibynu ar y peth goreu sydd ganddo. Ac am gael ei ddwyn o flaen yr eglwys, y mae hyny cystal ag wedi cymeryd lle, oblegid y mae yr Eos wedi seinio ei glodydd yn nghlust pob aelod o'r eglwys, ac wedi glân ddyrysu arno, a'r rheswm am yr holl zel ydyw fod Obediah Simon yn gerddor. Os dyna'r sort o ddyn yr ydym eisiau yn Bethel, wel, pa'm nad aiff y creadur i fewn am gael Sims Reeves i fugeilio'n heglwys. Dafydd Dafis, os na rowch chi'ch gwyneb yn benderfynol yn erbyn y symudiad yma, mi âf i i berthyn i Seintiau'r Dyddiau Diweddaf."

Prin yr oedd y gair olaf allan o enau Didymus, pan y gwnaeth Eos Prydain ei ymddangosiad. Ni byddai efe un amser yn mynychu y Cyfarfodydd Misol, ond, fel Methodist teyrngarol ac ymwybodol o'i rwymedigaethau fel diacon, byddai yn arferiad dieithriad ganddo dalu ymweliad â Dafydd Dafis bob mis, er mwyn cael hanes y Cyfarfod Misol. A diamheu mai gyda'r amcan hwn y daethai efe i dŷ Dafydd Dafis y noson hon. Ni wyddai efe, wrth gwrs, fod Didymus yno o'i flaen, onide, hwyrach, y buasai yn aros hyd nos dranoeth. Cafwyd ymgom mor ddyddorol, hyny ydyw, yn nghyfrif yr ysgrifenydd, gan nad beth ddywed y darllenydd, fel y mae yn rhaid i mi gymeryd penod gyfan i'w chroniclo, a phenod led faith hefyd, mae arnaf ofn.