Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/139

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei oreu yn ol y ddawn a rodded iddo. Pruddhaodd, ar y pryd, wrth wrando ystori Didymus, a dechreuodd feddwl nad oedd iddo le yn marn na serch ei gydswyddog, nac yn eiddo yr eglwys.

"Beth a ddywed y cyfeillion sydd yn meddu barn ar y mater?" gofynai Dafydd i Didymus.

Chwi wyddoch," ebe'r anghredadyn, "y gellwch gyfrif y rhei'ny ar fysedd un o'ch dwylaw, a chwi ydyw y cyntaf o honynt i mi gael siarad âg ef ar y mater."

"Bydae'r achos yn dod o flaen yr eglwys, be ydi eich barn chi, Thomas, am y gŵr ?" gofynai Dafydd.

"Fŷ marn i ydyw," ebe Didymus, "fel y byddan nhw'n dweyd mewn 'Steddfod, nad ydi o ddim yn deilwng o'r wobr, ac mai gwell ydyw gadael y pwnc i ymgeisio arno eto, os ydach chi'n dallt fy meddwl i. Beth ydyw eich barn chwi, Dafydd Dafis?”

Tueddu yr ydw i i synio 'run fath a chi," ebe Dafydd. "Ond hwyrach ein bod ein dau yn gwneud cam â'r gŵr. Nid ydyw yn iawn barnu dyn wedi ei glywed ddim ond unwaith. Dichon fod Mr. Simon yn ŵr rhagorol, ac nad allwn gael ei well, ond, a dweyd y lleiaf, yr wyf yn meddwl fod Phillips wedi bod yn rhy brysur—yn rhy brysur o lawer. Nid chware plant ydi galw dyn i fugeilio eglwys. Mae isio cymeryd pwyll mawr, a gweddio mwy na mwy am gyfarwyddyd. Gwell ydi'r drwg a wyddom na'r drwg nas gwyddom. Ddaru'r dyn ddim gneud argraph neillduol ar fy meddwl i, ond hwyrach mai arna' i 'roedd У bai. Mi wn y mod i'n rhy dueddol i sylwi ar bethe bychain, ddaru mi ddim leicio i wel'd o'n gwisgo modrwy am ei law. Ddaru chi sylwi ar hyny ?"

"Do, debyg," ebe Didymus. "Yr oedd y wisg oreu wedi ei dwyn allan, ac yr oedd y fodrwy am ei law, ac oni bae i mi ddarganfod fod y llo pasgedig yn fyw ac heb ei ladd, mi f'aswn wedi dod i'r casgliad mai Mr. Simon oedd y Mab Afradlon, y elywsom ni gymaint o sôn am dano."

"Wn i ddim a ydw i'n y'ch dallt chi," ebe Dafydd yn ei ddiniweidrwydd, "ai'ch meddwl chi ydi wrth ddeyd fod y llo pasgedig heb ei ladd, mai pregethu'n sål yr oedd Mr. Simon ?"

"Nid hyny yn unig," ebe Didymus, "ond eglur ydyw na allasai fo bregethu bydase fo wedi ei ladd, oblegid, mi gymra