Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/138

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gallai mai y merched ieuainc oedd yn eu lle, yn gymaint a bod astudiaeth galed yn peri i ddyn edrych yn hyn nag ydyw mewn gwirionedd, ac amlwg ydoedd fod Mr. Obediah Simon wedi bod yn fyfyriwr ymroddgar, canys gwisgai yspectol.

Ond yr oedd yn eu plith un o'r enw Thomas, yr hwn a arferai ysgrifenu i'r wasg, ac a adnabyddid wrth y ffugenw "Didymus;" hwn ni chredai y buasai Mr. Simon yn fyfyriwr caled, a phrotestiai mai bochau tatwe laeth oedd ganddo, ac na welodd efe erioed fyfyriwr caled gyda bochgernau mor wridog. Ond rhoddwyd y diffoddydd ar Didymus gan un o'r frawdoliaeth, gyda'r sylw pert canlynol, sef fod yn y bochau dynol wmbreth o recuperative power, ond unwaith y rhoddai Lladin a Groeg eu bys yn llygad dyu, mai caffael o honof fy ngolwg a fyddai gwaedd y dyn hwnw byth wed'yn? Ffaith hynod ydoedd fod enw y Parchedig Obediah Simon wedi ei droi a'i drafod yn nheuluoedd naw o bob deg o aelodau eglwys Bethel, fel gŵr tebygol o wneud bugail rhagorol, cyn i Dafydd Dafis glywed na siw na miw am y peth. Ac mewn Cyfarfod Misol y clywodd Dafydd gyntaf am y sôn.

"Ai gwir ydi'r stori, Dafydd Dafis," ebe brawd o flaenor wrtho, "y'ch bod chi'n debyg o alw Mr. Obediah Simon yn fugel acw?

"Chlywes i neb yn sôn am y fath beth." ebe Dafydd.

"Peidiwch a bod mor slei, Dafydd Dafis," ebe ei gyfaill, "achos yr oedd Mr. Simon ei hun yn deyd wrtho i ddoe dwaetha'n y byd fod ei achos o'n debyg o da'od o flaen eglwys Bethel yn fuan."

"Tarawyd Dafydd â mudandod a phoenwyd ef yn fawr. Pan ddaeth Dafydd adref, pwy oedd yn ei dŷ yn ei ddisgwyl ond y Didymus y cyfeiriwyd ato yn barod, yr hwn a gyfritid gan rai o'r brodyr fel gŵr o ymadroddion celyd. Pan ddeallodd Didymus fod y sôn oedd yn mhlith yr aelodau am y Parch. Obediah Simon yn ddyeithr i Dafydd Dafis, adroddodd iddo yr oll a wyddai am yr helynt. Cafodd Dafydd waith peidio llesmeirio. Yr oedd yn mron yn anhygoel ganddo y gallasai y siarad fod mor gyffredinol ar bwnc mor bwysig, a'r cyfan, megis, tu ol i'w gefn ef. Arferai dybied fod ei wasanaeth fel blaenor yn cael ei werthfawrogi gan yr eglwys, ac er na choleddai syniadau uchel am ei alluoedd, yr oedd ganddo ymwybyddiaeth nad oedd yn ol i neb am ffyddlondeb ac o wneud