Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/137

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Arglwydd, ei fod yn eithaf parod i ymgyflwyno yn hollol i'r gwaith; mewn gwirionedd, mai dyna oedd dymuniad penaf ei fywyd. Dywedodd yr Eos wrth y gŵr dyeithr fod gwir angen ar eglwys Bethel am fugail, a bod yr eglwys, dybiai ef, yn lled addfed i chwilio am olynydd teilwng i Rhys Lewis, ond ei fod yn rhoddi y cwestiwn i'r gŵr dyeithr, wrth gwrs, yn hollol ar ei gyfrifoldeb ei hun. Ar yr un pryd, rhoddai yr Eos ar ddeall i'r pregethwr ei fod yn tybied fod ganddo farn, ac y gwyddai beth oedd barn yr eglwys, ac mai purion peth oedd gwybod pwy oedd yn agored i dderbyn galwad a phwy oedd heb fod felly erbyn yr elid at y gwaith o ddewis.

Rhag i neb feddwl fod yr Eos wedi arfer prysurdeb annoeth drwy grybwyll cwestiwn o'r fath wrth ŵr nad oedd erioed wedi ei weled o'r blaen, nac yn gwybod dim am dano, priodol ydyw hysbysu y darllenydd fod y gŵr dyeithr wedi gwneud sylwadau hynod o ffafriol ar ganu cynulleidfäol Bethel, ac wedi dangos yn eglur, yn nhyb yr Eos, y gwyddai efe y gwahaniaeth rhwng crotchet a demi—semi—quaver. Yn awr, yr oedd hyn, yn mryd yr Eos, yn acquirement, na cheid ond yn anfynych mewn pregethwr, ac nid allai lai na meddwl y fath gaffaeliad fuasai i eglwys Bethel gael gweinidog, nid yn unig yn gwerthfawrogi cerddoriaeth, ond yn gerddor hefyd. A chyda y rhagolwg hwn yn llosgi yn ei fynwes, ni fu yr Eos yn brin yr wythnos ganlynol i grybwyll y mater wrth nifer luosog o aelodau Bethel, yn enwedig y dosbarth ieuanc o honynt. Cyn y Sabboth dilynol yr oedd Obediah Simoncanys dyna oedd enw y gŵr—wedi ei bwyso a'i fesur ar aelwydydd yr aelodau, ac nid yn anffa friol. Cydnabyddid yn lled gyffredinol ei fod yn bregethwr rhagorol, a derbynid tystiolaeth yr Eos yn grediniol fod yn Mr. Simon ogoniant mwy nag a amlygwyd eto. A mwyaf y meddylid am dano, goreu oll a chymwysaf oll yr ymddangosai Mr. Simon i fod yn olynydd teilwng i Rhys Lewis. Yr oedd Mr. Simon yn ddibriod, ac heb fod yn ddirmygus o ran ymddangosiad, ac erbyn clustfeinio siaredid yn hynod ffafriol am dano gan ferched ieuainc Bethel a chan amryw o'r mamau (nid yn Israel). Bu oedran Mr. Simon yn destyn cryn drafodaeth yn mhlith y dosbarth a enwyd, a chytunid yn lled unfrydol ei fod dan ddeg ar hugain oed. Tueddai y gwŷr ieuainc mwyaf meddylgar a chraff i gredu ei fod yn nes i ddeugain oed, ond addefent yn rhwydd y