Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/136

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Oes rhywun o bobl y capel yn sâl heblaw fi?" gofynais i fy mam.

"Nag oes, ngwas i, p'am 'rwyt ti'n gofyn?" atebai fy mam. "O, dim," ebe fi. Ond truenus iawn a fu hi arnaf y noswaith hono, oblegid gwelwn fod yr Eos a'i gôr am fy nghladdu ar unwaith. Yr oedd arwyddion gwellhad arnaf cyn y Sabboth dilynol, ac er i mi wrando'n ddyfal, ni chlywn ddim o Vital Spark. Pan ddeuais o gwmpas dychymygwn fod yr Eos yn edrych yn siomedig am na fuaswr wedi marw, ac nid aethum byth wed'yn yn agos i'w gôr.

PENNOD XXII.

Y BUGAIL.

Ar hyn yr wyf yn cyfeirio er's meityn, ond fy mod fel ci Gwilym Hiraethog yn rhedeg ar ol pob pry' ac aderyn a ddaw ar draws fy llwybr. Gadawodd bugeiliaeth Rhys Lewis argraph mor dda ar feddyliau aelodau eglwys Bethel, fel, yn fuan iawn ar ol ei farwolaeth, y dechreuasant anesmwytho am gael bugail arall. Ac nid hir y buont cyn syrthio ar y gŵr. Cymerodd y peth le yn hynod naturiol. Digwyddodd ddyfod pregethwr ar gyhoeddiad Sabboth i lenwi pwlpud Bethel, yr hwn—sef y pregethwr, nid y pwlpud—na fuasai yno erioed o'r blaen, a'r hwn hefyd oedd newydd—ddyfodiad i'r sir. "Pasiodd" y gŵr yn rhagorol iawn. Yr oedd ganddo ddawn ymadrodd rhwydd a thine dymunol yn ei lais. Gydag Eos Prydain y digwyddai y pregethwr dyeithr letya—ei “fis” ef oedd o i dderbyn y llefarwyr. Cyn myned i'r gwely y nos Sabboth hwnw, ar ol bod maith ymgom, gwnaeth yr Eos yn hyf ar y gwr dyeithr, a gofynodd iddo a oedd efe yn barod i dderbyn "galwad" pe buasai un o eglwysi y sir yn meddwl am dano fel bugail? Wedi petruso ychydig, a hymio a haio enyd, atebodd y gŵr ei fod ef yn hollol yn llaw Rhagluniaeth, os yn y cymeriad o fugail y dymunai hi iddo weithio dros ei