Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/135

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

reolau dealledig, y rhai ni wnaf eu henwi yma. Ein pwnc mawr oedd bod yn barod ar ddiwrnod o rybudd gyda Vital Spark. Weithiau byddem yn cael practice pan fyddai rhyw bosibilrwydd—megis yn nglyn â gwragedd priod, er na sonid am y peth fel y cyfryw. Os cymerid rhywun yn wael yn yr oedfa, ac yn enwedig os byddai raid ei gario allan, byddem yn tyru i dŷ yr Eos i gael practice. Yr wyf yn cofio yr Eos mewn penbleth mawr un tro. Perthynai i gynulleidfa—nid i eglwys Bethel—ŵr hynaws, call, a chlyfar yn ei ffordd ei hun, o'r enw Tom Jones. Byddai Tom yn gyson iawn fel gwrandawr, ond yr oedd yn herwheliwr enbyd. Buasai Tom "o flaen ei well" fwy nag unwaith. Un noson daliwṛd Tom gan gipars Plas yn herwhela ar yr ystâd. Nid oedd Tom yn foddlon colli ei ysglyfaeth, ac aeth yn ysgyffyl rhyngddynt. Llwyddodd i ddyfod yn rhydd o'u gafaelion; ond o herwydd ei fod wedi gorfod ymladd yn erbyn dau, dyoddefodd ysigiad tost, o'r hwn ysigiad y bu Tom druan farw. Yn awr, y cwestiwn a flinai yr Eos oedd a oddefid—nid a ddylid—canu Vital Spark. Fodd bynag, cawsom practice, a rhoddwyd y cwestiwn o flaur. Dafydd Dafis. Penderfynodd Dafydd y cwestiwn mewn eiliad, a gofidiai yr Eos na fuasai Tom farw dan amgylchiadau gwahanol. Tra yr oeddwn yn aelod o gôr yr Eos, llawenhawn nad oedd Wil Bryan gartref, oblegid gwyddwn na fuasai ef fawr o dro yn d'od o hyd i'n practices ni, ac na buasai yn arbed dadlenu ein hymbygoliaeth.


Gwrthgiliais o gôr yr Eos, ac fel hyn y bu. Cymerwyd fi yn wael gan y slow fever. Trigai yr Eos yn y tŷ nesaf ond un i'n tŷ ni. Oddeutu deg o'r gloch, y nos Sabboth cyntaf o fy afiechyd, yr oeddwn yn wael iawn, a neb ond fy mam yn fy ngwylio. Yr oedd yn noswaith dawel, ac, erbyn hyn, nid oedd neb yn tramwy yr heol. Darllenai fy mam ei Beibl iddi hi ei hun Yn y man clywn sŵn canu, ac er nad allwn glywed y geiriau, gwyddwn ar y gerddoriaeth mai

"Lend, lend your wing,
I mount, I fly;
O grave where is thy victory!
O death! where is thy sting!"

oedd y geiriau a genid.