Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/134

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fod gweddi, ddyoddef rhyw lawer tra byddai Dafydd Dafis ya fyw. Nid oedd y blaenor arall, sef Alexander Phillips (Eos Prydain), ond anfynych yn rhoi ei bresenoldeb yn y cyfarfodydd hyn. Yn ei gylch ei hun fel dechreuwr canu, ac fel un oedd yn gofalu am lyfrau yr eglwys, yr oedd yr Eos yn gampus. Ond prin y gwelid ef unwaith yn y chwarter yn y seiat a'r cyfarfod gweddi. Pan ddeuai y Sabboth yr oedd fel un yn lladd nadrodd, neu yn bwrw pridd ar gorph, fel y dywedir. O'r braidd y byddai yn cymeryd hamdden i fwyta, ac yr oedd y pitch-fork yn amlach rhwng ei ddanedd na'r llwy a'r ffore gig. Byddai ganddo gyfarfod canu am un o'r gloch y prydnawn, ac am bump o'r gloch, ac un wed'yn ar ol oedfa'r nos, ac yr oedd mwy o sŵn yn ei dŷ nag oedd yno o lestri gweigion. Un o'r pethau a roddai fwyaf o foddlonrwydd meddwl a thawelwch cydwybod i'r Eos wrth edrych yn ol, oedd y ffaith ddarfod i gôr Bethel o dan ei arweiniad ef ganu Vital Spark yn effeithiol ar ol marw Rhys Lewis. Os rhaid dweyd y gwir, yr oedd yr Eos Prydain a'i gôr, gyda rhagwelediad canmoladwy, wedi bod yn ymarfer Vital Spark rai misoedd cyn marwolaeth y gweinidog. Nid yn y capel, wrth gwrs, y cymerai y practices ie-buasai hyny yn rhy awgrymiadol, ond yn nhŷ ardrethol yr Eos ei hun. O ganlyniad, pan gymerodd y digwyddiad galarus le, yr oedd yr Eos a'i gôr yn barod gyda Vital Spark. Byth wedi hyn yr oedd yr Eos-yn ymwybodol o'i fod ef ei hun a'i gôr yn barod i ganu dernyn rhagorol o gerddoriaeth, ond yr hwn dderuyn nad allent gyda phriodoldeb ei ganu ond ar achlysuron neillduol-yr oedd yr Eos, meddaf, nid yn anfynych pan fyddai y pregethwr yn llefaru, yn cymeryd stock o'r gynulleidfa i edrych a oedd rhyw arwyddion yn ngwedd rhywun fod y gelyn diweddaf wedi ei farcio. Os byddai pawb yn edrych yn iach a hoew, troai yr Eos ei fyfyrdod at y dôn oedd i'w chanu ar ddiwedd yr oedfa, a hawdd oedd gweled ar ei gêg ei fod yn ei chwibanu yn ei frest. Ni waeth i mi wneud y cyfaddefiad-bûm am amser yn aelod o gôr detholedig yr Eos, a dyna sut yr wyf yn gwybod yr holl fanylion. Yr oedd yn ddealledig yn ein plith ni ein hunain, ac yn mhlith neb arall, os byddai rhywun o aelodau cynulleidfa Bethel yn. gwaelu o ran ei iechyd, fod private practice i'w gynal yn nhŷ Eos Prydain bob nos Sabboth, ond os byddai pawb yn iach c'ai Vital Spark lonydd am dymhor. Yr oedd genym rai mân