Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/133

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

sicrhau iddo fwy o barch nac o edmygedd, yn enwedig yn mhlith y bobol ieuainc. Galarai yr aelodau oedranus a berthynont i eglwys Bethel, y rhai oeddynt yn mron gorphen ymladd â'r byd, ac wedi blino ar ei brofedigaethau, galarent na fuasent wedi byw yn debycach i Dafydd Dafis, a gwaredai yr ieuainc, er eu bod yn parchu ei dduwioldeb, rhag edrych arno fei patrwm i'w ddilyn. Fel yr wyf yn heneiddio, ac yn fy oriau mwyaf prudd, byddaf yn mron meddwl mai bywyd fel yr eiddo Dafydd Dafis ydyw yr unig fywyd gwerth ei fyw. Pan mae tenyn dyn wedi myn'd mor gwta fel nad ydyw yn rhoi dim wrth ei dynu, a phan deimla mai yr unig beth mawr sydd o'i flaen yn y byd hwn ydyw marw, nid all dim ei demtio i chwerthin yn debyg i'w ffolineb ef ei hun yn yr amser aeth heibio y pris a fu yn ei roi ar sefyllfa, ar barch, ar dipyn o swydd, ar wleidyddiaeth, neu arian. Pan mae nos einioes wedi dal dyn, y fath wegi yr ymddengys yr holl fustachu sydd yn y byd! Pa bwys, erbyn hyn, ai bwthyn ai palas fydd ein trigfod? Pa bwys pwy fydd y Prif Weinidog? Ffaith heb ei chyffelyb ydyw hono yn nghylch y Parch. John Hughes, Pontrobert. Pan aeth brawd i ymweled âg ef pan oedd ar ei wely angeu gan ddisgwyl cael gair o'i brofiad, a phan ofynodd, 'Wel, John Hughes bach, sut mae hi arnoch chi heddyw? ei ateb oedd, "Symol; be mae nhw yn neud tua'r Parliament ene, y dyddiau yma, deydwch?"

Yn fy oriau prudd, meddaf, byddaf yn edrych ar fywyd Dafydd Dafis gydag eiddigedd, ond i'r dyn a'r meddwl iach, effro, dichon mai bywyd hunanol yr ymddangosai un fel yr eiddo Dafydd Dafis. Hen lanc oedd efe, ac efallai fod yr elfen hunanol yn ymddadblygu yn ddiarwybod i'w pherchenog yn mywyd dyn sengl. Ran hyny, onid hunan sydd yn llywodraethu pob dyn, ond ei fod yn gwisgo gwahanol weddau. Mae yn wir, mai un o anhebgorion crefydd ydyw hunanymwadiad, ond y mae yr un mor wir, nad oes dim fel crefydd am ddadblygu hunan a rhoi gwerth ar bobpeth sydd yn nglyn â hunan. Beth fel crefydd a all ddwyn dyn i deimlo ei unigolrwydd, ei gyfrifoldeb, ei ddyfodol? Nid yw y pethau hyn ond gweddau ar hunan. Mae y dyn gostyngedig yn arbenig yn dangos yn eglur fod hunan wedi cael rhan helaeth o'i fyfyrdodau.

Ond yr wyf yn crwydro. Cysurus gan Eglwys Bethel oedd cofio na chai y cyfarfodydd wythnosol, megis y seiat a'r cyfar-