Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/132

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac er ei fod, iddo ef ei hun, fel peth wedi digwydd yn y gorphenol-cyn iddo gymeryd lle. Ond daeth y diwedd; a phan sibrydwyd y gair fod Rhys Lewis wedi marw, aeth ton ddistaw o brudd-der dros galon ei gydnabyddion, ac, fel rhai wedi bod yn dyfal wylio machludiad haul ar hwyr-ddydd hâf ac yn aros yn fyfyrgar i syllu ar ei belydrau ymadawol, ysgydwent eu penau mewn trist-ddedwyddwch.

Wedi marw Rhys Lewis ymgysurai yr eglwys fod ganddi un dyn synwyrol a chrefyddol, ac abl i'w harwain yn mherson Dafydd Dafis. Hyny ydyw, yr oedd Dafydd Dafis yn un a allai " gadw seiat cystal a nemawr bregethwr. Dilys fod y darllenydd yn cofio fath ŵr oedd Dafydd Dafis. Dyn yr un llyfr, yn mron, oedd ef. Anfynych y byddai yn gweled newyddiadur, ac ni fyddai yn ceisio dilyn yr amseroedd; ond yr oedd efe yn dilyn y Cyfarfodydd Misol a'r Cymanfäoedd gyda chysondeb. Ni welid Dafydd byth mewn cyngherdd nac Eisteddfod, ond, hyd y gallai, byddai yn mhob cyfarfod gweddi a seiat. Nid ymyrai â gwleidyddiaeth, ac ar adeg etholiad rhoddai ei bleidlais, mewn ffydd, i'r un a gefnogid yn fwyaf cyffredinol gan grefyddwyr. Yn ei olwg ef nid oedd bywyd yn dda i ddim ond i fod yn grefyddol, ac yn grefyddol yn yr ystyr a roddai ef i grefydd. Yr oedd efe yn gul ryfeddol, ac ar yr un pryd yr oedd rhyw fath o ddyfnder ynddo. Ffarmwr digon gweddol oedd efe, ac os nad oedd Dafydd yn grefyddol, nid oedd yn ddim yn y byd, y truanaf o'r holl greaduriaid ydoedd. Y ffarm, y ffair, y Cyfarfod Misol, y Sasiwn, y dyddiadur, yr almanac, y Drysorfa, Esboniad James Hughes, y Beibl, a'r capel, yn enwedig y ddau olaf-dyna oedd ei holl fyd a'i fywyd. Yr oedd efe yn gul, fel y dywedwyd, ond nid yn sarug. Yr oedd ei grefydd wedi ei wneud yn sad mewn mwyneidd-dra. Ni welais mo hono erioed yn chwerthin ond gyda deigryn yn ei lygaid, a hyny o dan y pwlpud. Nid wyf yn meddwl y gallasai holl ddigrifwcn y byd beri iddo chwerthin, ond mi wn y gwyddai Dafydd Dafis yn dda, fel y gwyddai mab Jesse, am ddigrifwch y ddebeulaw. Nid oedd efe i'w gydmaru o ran gallu ac amaethiad meddyliol àg Abel Hughes, ond yr oedd wedi yfed yn helaeth o grefyddolder y gŵr by barch hwnw, ac nid am ddim y treuliodd flynyddau yn ei gwmni. Yr oedd ei lwyrtrydedd yn y peth yr oedd efe yn hynod ynddo, wedi