Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/131

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

angen am eu haddysgu, eu hyfforddi, a'u porthi ag ymborth crefyddol, rhoddir pris ar y neb a all gyflenwi yr angen—gan nad pwy a wnelo y gwaith—ai blaenor ai pregethwr. A pha beth sydd yn fwy rhesymol nag ymddiried y gwaith i'r mwyaf ei dalentau, ei addysg, a'i ymgyflwyniad? A pha beth sydd yn fwy rhesymol, os bydd dyn wedi ymgysegru i'r gwaith, na thalu iddo am ei waith ? Mae deddfau cymdeithas yn penu tâl am wasanaeth, ac, yn sicr, nid ydyw yr Efengyl yn fwy dianrhydeddus na chymdeithas. Mae rhywrai, ysywaeth, yu ystyried eu hunain yn rhy dduwiol i dalu am wasanaeth crefyddol. Talu i ddyn am wneud ei ddyledswydd ? meddant. Ië, debyg, ai nid am wneud ei ddyledswydd y telir, neu y dylid talu, yn mhob amgylchiad?

Ond at hyn yr oeddwn yn cyfeirio : mae y gwrthwynebiad a ddengys rhyw ddosbarth o grefyddwyr i fugeiliaeth eglwysig i'w briodoli gan amlaf i un o ddau beth—naill ai i gybydd-dod neu i ragfarn a grewyd gan fugeiliaid clerigol ac annheilwng. Gadawodd bugeiliaeth Rhys Lewis argraph dda ar feddwl yr eglwys a'i galwodd i'w gwasanaethu. Ac nid allai lai ; oblegid heblaw ei fod yn ŵr ieuanc galluog ei feddwl a grasol ei galon, meddai ystôr helaeth o synwyr cyffredin — nwydd anhebgorol i fugail, ac, yn wir, i bob un y bydd a wnelo à thrin dynion o wahanol fathau. Ni fu ei wendid corphorol o nemor, os bu o ddim , anfantais i'w ddylanwad. Hwyrach i'w wendid maith ddiarfogi treisui y rhai oeddynt wrth naturiaeth dipyn yn bigog, ac enyn cydymdeimlad cywir a chynes eraill. Beichiodd ei hun à chymaint o waith ag a allai ei ysgwyddau ddal, a rhyfeddai llawer, wrth ystyried nad oedd efe yn esgeu luso ymweled â'r cleifion a'r anffyddlouiaid , a myned ar ol y crwydriaid, heblaw bod yn gyson yn yr boil gyfarfodydd, a chyflawni amryw oruchwyliaethau eraill , pa fodd yr oedd efe yn gallu parotoi pregethau mor ragorol . Yr oedd peiriant ei feddwl—os goddefir i mi ddweyd felly, yn ysgogi mor nerthol a phenderfynol fel na pheidiodd fyn'd yn ei flaen pan ballodd ei iechyd. Fel y bydd y môr yn ymrolio ac yn tòni am . amser wedi i'r gwynt gilio, neu fel y gwelir y trên yn myned yn ei flaen wedi i'r ager gael ei droi ymaith , felly yr oedd Rhye Lewis, am amser, wedi i'w nerth gael ei ostwng ar y ffordd, yn. myned yn mlaen yr un fath gyda'i waith. Parodd hyn i'w farwolaeth ymddangos yn sydyn i laweroedd, er nad oedd felly,