Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/130

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddyn gwbodus iawn. Welest di mor handi 'roedd o'n rhoi hanes y baco i ni. Ond yr ydw' i wedi annghofio'n barod sut deydodd o. Be oedd enw'r dyn ddusgy frodd y baco dywed ?"

"Wn i ddim, na waeth gen' i chwaith," ebe Barbara.

"Rydw i'n meddwl yn siwr mai Bendigo Jones y galwodd Sem o, dae fater am hyny. Y peth gore i ni 'rwan ydi nhuddo 'r tân a myn'd i gadw," ebe Thomas.

PENNOD XXI

"VITAL SPARK."

MAE cariad neu gâs pobl at bob sefydliad yn cael ei enyn fynychaf gan ei hyrwyddwyr, a'r rhai a fyddont yn dal y cysylltiad agosaf âg ef. Gorchwyl anhawdd i'r lliaws ydyw edrych ar sefydliad neu drefn ar wahan i bersonau. Bydded y peth mor dda ag y bo, rhaid i'w fodolaeth a'i lwyddiant ddibynu i raddau mawr ar gymeriad y bobl fydd yn nglyn âg ef. Ac y mae yn hyn gyfaddefiad, gan nad pa mor bwysig y gall egwyddor fod ynddi ei hun, fod mwy o bwys yn yr ymarferiad o honi. Gellir myned yn mhellach, a dweyd yr edrychir gyda goddefiad-ac weithiau gyda chymeradwyaeth-ar ambell sefydliad sydd ynddo ei hun yn annghyfiawn a chamwrus, a hyny o herwydd cymeriad rhinweddol y rhai fyddont yn nglŷn âg ef. Yn ngwyneb yr Ysgrythyr y mae cysylltiad yr Eglwys â'r Wladwriaeth yn gamwri dybryd. Ond pe buasai holl Offeiriaid, Esgobion, ac Archesgobion y Sefydliad, yn ddieithriad, yn ddynion bucheddol, gweithgar a duwiolfrydig, mae yn amheus a fuasai yn Nghymru heddyw Ymneillduaeth gwerth sôn am dani. Ychydig o bobl sydd, mewn cymhariaeth, mi debygaf, ag sydd wedi ymgydnabyddu â'r Beibl, a llwyddiant crefydd ysbrydol yn agos at eu calon, nad ydynt yn cymeradwyo bugeiliaeth eglwysig o ran yr egwyddor. A pha beth sydd yn fwy naturiol a rhesymol? Tra pery dynion mewn