Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/129

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wn na churiff neb monoch chi. Ond y mae gwaith mein allan o'ch lein chwi, mi newch adde' hyny, Thomas?"

"Be haru chi ddyn?" ebe Thomas, gan godi tipyn ar ei lais. "Ond oedd gen' i chwarter owns o waith y Top, ag on waries i bump punt ar hugen yno na welis i byth wymeb y delyn o honyn nhw, heblaw be waries i am ddiod! On fedde gynon ni gyfarfod yn y Brown Cow bob nos Lun cynta o'r mis i edrach dros bethe ac i dalu'r arian, ac hyd i'r noswaith ddwaetha yr oedd y meinars yn dweyd ar 'u gwir fod yno well 'golwg' ar y Gwaith nag a fu 'rioed, ag y bydde ni gyd yn fyddigions, a fine fel ffwl yn talu am lasus rownd wrth feddwl mor gyfoethog fyddwn i. Yr hen geriach!"

"Thomas," ebo Sem, gan godi ar ei draed i ymadael, "ddeydes i ddim gantodd o weithie na chaech chi ddim plwm yn Ngwaith y Top?"

"'Doeddach chi, Sem," ebe Thomas, "ddim yn gweithio yn y Top nac yn cyfarfod yn y Brown Cow. Bydase chi yn un o honyn nhw, 'does neb ŵyr be fasech chi'n ddeyd. Ond 'dawn ni ddim i ffraeo. Ydach chi ddim am i chychwyn hi mor gynar, ydach chi, Sem ?"

"Ydw, Thomas, mae hi'n dechre myn'd yn hwyr," ebe Sem. "Wel, brysiwch yma eto," ebe Thomas, gan agor y drws, ac wedi edrych allan, ychwanegodd, "Be neiff hi heno, ddyliech chi, Sem, ai rhewi?"

"Nage, os na throiff y gwynt yn fwy i'r gogledd, ac eto, hwyrach mai rhewi neiff hi," ebe Sem."

"Thomas," ebe Barbara, wedi i Sem fyned ymaith—a hwn oedd y gair cyntaf iddi yngan er pan ddaeth Sem i'r tŷ—"Thomas," ebe hi, "be ddeydodd Sem am y siarad sy am ferch y Capten ac Enoc Huws?"

"Y nefoedd fawr a ŵyr," ebe Thomas. "Mi ddeydodd barsel o bethe y ddwy ochor fel dase, ac eto wn i ddim ar chwyneb y ddaear be ddeydodd o. Mi ddyffeiwn Eutun y twrne i wbod be fydd Sem wedi ddeyd a bod yn siwr. Ond y mae gan Sem, wel di, lawer yn 'i gropa."

'Mae gynofo lawer o facyn yn 'i gropa heno beth bynag. A waeth gen' i heb ddyn na wyddoch chi ddim be fydd o wedi ddeyd," ebe Barbara.

"Waeth i ti befo, ebe Thomas, "mi fydda i'n cael llawer o ddifyrwch wrth drio gesio beth fydd o'n ddeyd. Mae Sem yn