Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/128

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Ai gesio 'rydach chi, Sem ?" gofynai Thomas yn wyliadwrus.

"Gesio? nage, fydda i byth yn gesio, Thomas, a dda gen' i mo'r bobol sydd yn gesio heb sail yn y byd am y pethe mae nhw'n ddeyd," ebe Sem.

"A mae hi'n ffact, ynte, fod y Capten ac Enoc ar gychwyn mentar newydd ?" ebe Thomas.

"'Ddeydes i ddim fod o'n ffact, Thomas," ebe Sem, “pan mae rhywbeth yn ffact 'does dim isio 'i ddeyd o—mae o'n eglur i bawb. Ond y mae rhw bethe nad oes neb ond y rhai sy'n gallu gweled yn mhellach na'u trwynau yn 'u gwybod nhw. Mi wyddoch hyn, Thomas, nad oes neb yn gwybod cymin o feddwl y Capten a fi? Ydach chi'n y nallt i, Thomas ?"

"Wel ydw', os ydw' i hefyd," ebe Thomas. "Y'ch meddwl chi ydi hyn, Sem-fod y Capten o'i chwmpas hi yn trio sycio Enoc Huws i mewn i gychwyn rhw fentar newydd ?"

"Dim ffashwn beth, Thomas, a chymerwch ofal na ddeyd wch chi wrth neb mod i'n deyd hyny," ebe Sem.

"Mae'n dda gen' i glywed hyny, Sem," ebe Thomas, "achos y mae gen' i barch calon i Enoc Huws. 'Rydw i'n credu bob amser mai dyn syth a gonest ydi Enoc Huws. Mae o'n fachgen sy wedi dwad yn i flaen yn ods, a hyny mewn ffordd gyfiawn. Wyddoch chi be? yr ydw' i wedi prynu dialedd o fwyd moch gan Enoc, a weles i 'rioed ddim o'i le arno. Mae nhw'n deyd i mi, Sem, y medre Enoc Huws fyw ar i arian pan fyne fo. A dene sy'n od-mae o'n un o'r rhai gore yn y capel. Wni ddim sut mae hi efo chi, y Sentars acw, ond efo ni, os bydd dyn dwad yn 'i flaen dipyn efo'r byd 'ma, welwch chi gip arno yn y capel, ond tipyn ar y Sul. Ond am Enoc, anamal mae o'n colli moddion. Gobeithio'r anwyl nad ydi o ddim yn myn'd i ddechre mentro, achos er mor dda mae o wedi gwneud, fydde'r hen Drefor fawr o dro yn lluchio 'i bres o i gyd i lawr shafft gwaith mein, na wele fo byth 'u lliw na'u llun nhw, 'run fath ag y gnath o efo pres Hugh Bryau, druan. Wyddoch chi be, Sem, 'rydw i'n cofio Hugh cystal off a neb yn y fan yma, cyn iddo fyn'd i grafangc yr hen Drefor."

"Peth garw iawn, Thomas,” ebe Sem, "ydi i ddyn siarad am rwbeth allan o'i lein. 'Dydw i'n ame dim, Thomas, nad y chi ydi'r crydd gore yn y wlad yma, ac fel judge ar fochyn, mi