Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/127

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Ddeydes i ddim ffaehwn beth, Thomas," abe Sem, "ond mi ddeyda hyn, fod o'n biti o beth pan ddeidiff rhwfun rwbeth wrthoch chi in confidence, na fasech chi wedi dysgu 'i gadw fo i chi'ch hun. Ond mae hyny i'w briodoli, yn ddiame, i ddiffyg addysg yn more'ch hoes."

"Digon tebyg, wir, Sem, achos pan ddeydiff rhwfun rwbeth wrtha i, ac yn enwedig os derda nhw wrtha i am beidio deyd hyny wrth neb arall, mae o'n dechre llosgi yn y mrest y munyd hwnw."

"Piti mawr ydi hyny, Thomas," abe Sem. "A ciyda golwg ar y peth yr yden ni wedi hintio ato, mi ddeyda hyn: mei y Thai sy'n gwbod leiaf am y peth sydd yn siarad yn fwya ffri yn i gylch, a'r rhai sy'n gwbod y cwbwl sy'n deyd dim."

"Ho!" ebe Thomas.

"Be bydae ni'n deyd fel hyn, 'rwan," ebe Sem, "mae Enoc Huws yn un sydd wedi gwneud llawer o arian, a mae arno angen am wraig. Mae Miss Trefor yn ferch ifanc sydd wedi cael addysg dda, a fydde raid i neb fod gwilydd o honi. Purion. Be bydae y ddau yn priodi, be fydde gan neb i ddøyd am hyny? Ne be bydae ni'n deyd fel hyn: na ddaru Enoc Huws erioed feddwl am Miss Trefor na hithe am dano yntan. Be fydde hyny i neb arall? Ydach chi'n nallt i, Thomas?"

Digon prin yr ydw i'n y'ch canlyn chi, Sem. Ai deyd yr ydach chi nad oes dim byd yn y peth?" gofynai Thomas. "Ddeydes i ddim ffashwn beth, Thomas," ebe Sem.

"Ho," ebe Thomas, "deyd yr ydach chi, ynte, fod rhwbeth yn y stori?"

Ddeydes i ddim o'r fath, Thomas a pheidiwch a deyd wrth neb y mod i wedi deyd ffashwn beth," ebe Sem.

"Give it up, ynte," ebe Thomas. "Ond deyd y gwir yn y'ch gwyneb chi, Sem, yr ydw' i'n leicio'ch sgwrs chi yn anwêdd bob amser, ond yr ydw i'n medru dallt pawb, 'rwsut, yn well nag ydw i'n y'ch dall chi, Sem. Wni ddim be ydi'r achos o hyny, ond dene'r gwir am dani. Mi wn mod i'n ddwl, siampal."

Wel," ebe Sem, "be bydae ni'n edrach ar y peth fel hyn, ynte: mae gan Enoc Huws arian—'does neb yn ame hyny. Mae gan Capten Trefor wybodaeth a phrofiad; a be os ydi'r ddau yn consyltio à'u gilydd gyda golwg ar ryw fentar newydd."