Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/126

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hyny. Gewch chi wel'd, Sem, os byddwn ni byw ac iach, y cawn ni wel'd y dyn ene wedi colli 'i blu."

"Thomas," ebe Sem, "'rydw i'n synu atoch chi'n siarad fel ene am ddyn parchus fel y Capten-dyn sy wedi gwneud cymin i'r ardal yma. Be ddeuthe o honom ni blaw am ddynion fel Capteu Trefor? Mi fasen wedi llwgu."

Llwgu ne' beidio, Sem," ebe Thomas, "rydw i'n mawr gredu y base'n gwlad ni yn well off o'r haner heb rhw wig ladron fel ene sy'n byw ar foddro a thwyllo poblach ddiniwed ar hyd y blynyddoedd. Ond mi rown stop arni yn fan ene, Sem, ne' mi awn i ffraeo. Deydwch i mi, oes ene rw wir yn y stori fod merch y Capten ag Enoc Huws yn codlo rhwbeth ?” 'Wel," ebe Sem, "hwyrach y medrwn i roi tipyn o oleuni ar hyny bydawn i'n dewis, ond y mae pobol yn amal yn siarad dan 'u dwylo, Thomas."

"A mae rhwbeth yn y peth ynte?" ebe Thomas. Ddeydes i mo hyny," ebe Sem.

"A chelwydd ydi'r cwbwl ynte?" gofynai Thomas.

"Ddendes i mo hyny chwaith," ebe Sem.

"Wel, be ydach chi'n ddeyd, ddyn? Wyddoch chi be, Sem, 'rydach chi'r meinars ma wrth siarad am y pethe mwya sumpyl yn trio 'u goeud nhw can dwlled a bol y fuwch ddu, na ŵyr neb ar chwyneb y ddaear lle 'rydach chi o'i chwmpas hi."

"Dydi'r pethe sy'n ymddangos yn sumpyl i rai pobol ddim yn sumpyl i bawb, Thomas," ebe Sem. "A dydi dyn ddim yn sypôsd i ddeyd pobpeth a wyr o, ne' mi fydde pawb galled a'u gilydd. Ac heblaw hyny, Thomas, y mae i bethe eu hamser ac i amser ei bethe."

Wel, wyddoch chi be, Sem, yr ydach chi'n un doeth hefyd! Mi fydda ine, fel ffwlcyn, yn deyd pobpeth wn i'n ffrwt, a mi fum yn synu lawer gwaith na faswn i wedi dwad i scrâp cyn hyn," ebe Thomas.

"Thale hi ddim i bawb fod felly, Thomas," ebe Sem. "Pe baswn i'n un felly mi fase ambell i gynllun wedi'i andwyo cyn iddo addfedu. Mi fydd ambell un yn trio tynu oddiarna i, ond mi fydda'n cymyd pwyll, ac yn cadw'r cwbwl i mi fy hun nes daw'r amser priodol."

"Rydach chi felly, Sem," ebe Thomas, "yn meddwl fod rhwbeth yn y stori am ferch y Capten ag Enoo Huws, ond fod yr amser heb ddwad i ddeyd hyny?"