Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/40

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

talent ati wrth ei gosod yn y farchnad oreu. Fod yn well i ferch ieuanc brydweddol fyw ar un pryd yn y dydd am dri mis, na gwisgo bonet allan o'r ffasiwn. Hyd yr oedd yn bosibl, na chymerai hi sylw o neb, yn wryw nac yn fenyw, islaw iddi hi ei hun, oddigerth mewn amgylchiadau ag y gwyddai hi yr edrychid ar hyny fel ymostyngiad rhinweddol a christionogol. Na fyddai iddi hi byth, hyd y gallai, ddifwyno ei dwylaw gydag unrhyw orchwyl isel a dirmygedig, megis cynneu tân, golchi'r llestri, glanhau y ffenestri, cyweirio'r gwely, a'r cyffelyb, ac os byddai raid iddi wneud rhywbeth yn y ffordd yna, na cha'i llygad un estron ei gweled. Y byddai iddi aros yn amyneddgar a phenderfynol heb briodi hyd yn bump ar hugain oed, os na ddeuai rhyw foneddwr cyfoethog i gynig ei hun iddi, ond os na ddeuai y boneddwr yn mlaen erbyn yr oed hwnw, nad arhosai hi yn hwy yn sengl, ond yr ymostyngai i cymeryd y masnachwr goreu y gallai hi gael gafael arno, os byddai efe yn arianog. Nad edrychai hi ar bregethwr ond fel un i dosturio wrtho, fel dyn prudd a thlawd, ond os caffai hi gynygiad gan giwrad, yr hwn a fyddai o deulu da, ac yn un tebyg o gael bywioliaeth dda, y byddai iddi hi gymeryd hyny i ystyriaeth—hyny ydyw, y teulu a'r fywioliaeth, ac hefyd, os byddai y ciwrad yn good-looking, na wnai wahaniaeth yn y byd pa mor lymrig a dienaid a fyddai efe—po fwyaf felly, goreu yn y byd, gallai ei drin fel y mynai. Pwy bynag briodai hi, a phriodi a wnai yn sicr ddigon, ac nid gwaeth a fyddai ganddi fod yn Hottentot nag yn heu ferch—pwy bynag a briodai hi, yr oedd yn benderfynol y mynai gael ei ffordd ei hun—neu, ac i mi ddefnyddio ymadrodd isel—yr oedd wedi gwneud diofryd y mynai gael "gwisgo'r clôs."

Dyna ychydig o "ideas" Miss Susan Trefor. Yr oedd ganddi ddrychfeddyliau ereill, y rhai, pe buasid yn eu henwi, a fuasent yn gosod Miss Trefor mewn gwedd fwy dymunol o flaen y darllenydd. Ac nid ydyw ond cyfiawnder â hi i mi ddweyd fod gan Miss Trefor un "idea" ag oedd i raddau helaeth yn rhoi lliw a llun ar ei holl "ideas," a hwnw oedd ei chrediniaeth ddiysgog a pharhaus fod ei thad yn gyfoethog. Cafodd Miss Trefor amser maith—amryw fynyddoedd—i anwesu a magu yr "ideas" a grybwyllwyd. Tybiais mai priodol a doeth oedd imi draethu cymaint a hyn am deulu Tynyrardd, cyn myned yn mlaen at y bennod nesaf.