Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/48

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Ydach chwi yn nallt i, Sarah? Mi wa na wnewch chwi mo fy nghrogi i. Wel, fel yr oeddwn yn dweyd, yr oedem yn cymeryd gofal i beidio agor y gwaith ond mor araf ag y medrem. Pan gaem bob sicrwydd fod tipyn o blwm mewn rhan neillduol o'r gwaith fe fyddem yn gadael llonydd iddo fel arian yn banc, ac yn ei gadw nes byddai y cwmpeini yn mron tori ei galon, a phan ddeallem eu bod ar fedr rhoi y Gwaith i fynu, fa fyddem ninau yn myn'd i'r banc ac yn codi digon o blwm i roi ysbryd newydd yn y cwmpeini i fyn'd yn mlaen am spel wed'yn. Wedi cael y cwmpeini i ysbryd reit dda, fe fyddem yn ail ddechreu cynilo, ac felly o hyd, ac felly o hyd ar hyd y blynyddoedd a minau yn gorfod reportio fel hyn a reportio fel arall—dyfeisio y celwydd yma un wythnos. a'r celwydd—arall yr wythnos wed'yn, er mwyn cadw pethau i fyn'd yn mlaen, nes yr ydw i wedi myn'd heb yr un celwydd newydd i'w ddweyd, a thal i mi ddim fyn'd dros yr hen rai, achos y mae y cwmpeini yn eu cofio yn rhy dda. Mae y shareholders trymaf wedi glan ddiflasu a chynddeiriogi ac wedi penderfyuu nad ânt gam yn mhellach. Ond fe all Mr. Fox a minau ddweyd ein bod wedi gwneud ein dyledswydd, a'n bod. wedi gwneud ein goreu i gadw'r Gwaith i fyn'd yn mlaen."

"Wel, Richard," ebe Mrs. Trefor wedi ei syfrdanu yn. hollol, ac yn methu penderfynu pa un ai wedi dyrysu yn ei synwyrau yr oedd y Capten ai wedi cymeryd dropyn gormod yr oedd efe, " Wel, Richard, ydach chi ddim yn deud nad oes yna blwm yn Mhwllgwynt? Mi'ch clywes chi'n deud gantodd o weithiau wrth Mr. Denman fod yno wlad o blwm ac y byddech chi'n siwr o ddwad ato rw ddiwrnod."

"Rhyngoch chwi a fi, Sarah," ebe'r Capten, " mi gymraf fy llw nad oes yn Mhwllygwynt ddim llon'd fy het is o blwm. Ond wnaiff hi mo'r tro, wyddoch, i bawb gael gwybod hyny. Dydio ddim llawer o bwys am bobl Llunden, ond y mae'n. ddrwg gen i dros Denman. Mae o'n gymydog, ac wedi tlodi. ei hun yn dost. Yn wir, mae gen i ofn y bydd Denman can dloted a finau rai o'r dyddiau nesaf yma."

"Can dloted a chithe, Richard? ydach chi ddim yn deud. y'ch bod chi yn dlawd?" ebe Mrs. Trefor mewn dychryn. mawr.

"Can dloted, Sarah, a llygoden Eglwys, ond just yn unig y pethau a welwch o'ch cwmpas. Yr oeddwn yn ofni eich bod