Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/83

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oddicartref nes i'r creulondeb fyn'd trosodd, ac er nad oedd a fynof fi, yn uniongyrchol, ddim â lladd y mochyn, mi fyddwn yn teimlo rhyw fath o euogrwydd am wythnosau, ac nid heb lawer o gymhell o ochr fy mam y gallwn gymeryd dim o'r bacon pan ddeuai yn gymhwys i'w fwyta. Chwi wyddoch eich hun, Sarah, fel y crugais pan laddwyd Job Jones, druan! yn Mhwllygwynt. Fe ddywedid y pryd hwnw fod tipyn o esgeulustra, ond 'dallwn i ddim wrth hyny, er mai dan fy ngofal i yr oedd yr holl waith, a fy mod, yn ngwyneb y gyfraith, yn gyfrifol, mewn ffordd o siarad, am farwolaeth Job, druan! Chwi wyddoch, Sarah, fel y darfu i mi grugo, meddaf, a mi ddeudaf i chwi beth na ddeudais erioed o'r blaen, sef i mi fod fwy nag unwaith ar fin cyflawni hunan-laddiad, neu, mewn geiriau eraill, comittio suicide, a hyny yn cael ei gynyrchu gan ordristwch am farwolaeth y llanc. Ac, mewn rhan, mi roddais y bwriad hwnw mewn gweithrediad, oblegid, chwi wyddoch i mi, yn yr amgylchiad hwnw, golli mwy na deugain pwys yn fy mhwysau. I ba le yr aeth y deugain pwys hyny, yr hyn oedd yn rhan wirioneddol o honof fi fy hun? Wel, mewn ffordd o siarad, fe ellir dweyd fy mod wedi comiitio suicide arno, neu, mewn geiriau eraill, wedi ei offrymu ar allor calon dris neu or—dynerwch. Ac, hwyrach, y bydd yn anhawdd genych fy nghredu, Sarah, ond y gwir yw—ni fyddaf byth yn cyfarfod â mam Job heb ddweyd ynof fy hun—'Dyma fam y bachgen ddarfu i mi ei ladd!' Yr ydych cyn hyn, Sarah, wedi bod yn fy ngheryddu am nad ydwyf yn myn'd i'r seiat ond anfynych, gan awgrymu fy mod yn dirywio yn fy nghrefydd; ond, a wyddoch chwi mai y prif reswm am hyny ydyw tynerwch fy nghalon, ac am nad allai edrych ar fam Job heb deimlo rhyw fath o euogrwydd, er fod y peth yn afresymol i'r eithaf. A ydych yn gweled erbyn hyn, Sarah, paham y darfu i mi gadw oddiwrthych ein gwir sefyllfa? Gor—dynerwch ydyw y rheswm am y cwbl. Yn hytrach na'ch gwneud chwi yn anhapus, yr oedd yn well genyf gadw yr holl bryder a'r helynt i mi fy hun—hyd yr oedd yn bosibl. Nid am nad oedd genyf ymddiried ynoch chwi, Sarah, y buasech yn ei gadw i chwi eich hun, ac nid am fy mod yn anghofio y cyfarwyddyd ysbrydoledig y dylem ddwyn beichiau ein gilydd, ond er mwyn arbed eich teimladau a pheidio tori ar eich dedwyddwch. Ond y mae genyf hyn i'w ddweyd—fod genyf gydwybod dawel, a fy mod wedi gwneud fy nyledswvdd."