Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/82

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hwyrach fy mod—yn—wir, yr wyf yn sicr fy mod— wedi gorliwio ein sofyllfa, a'i gosod allan, dan gynhyrfiad y foment, yn —waeth nag ydyw. Fase raid i chwi ddim, Sarah, redeg i'ch gwely mewn digalondid. Na, gyda bendith y Brenin Mawr ni a gawn damaid eto. Yn wir, efallai y bydd hi'n well arnom nag y bu hi erioed. Hyd yn nod bydae pethau yn dyfod i'r gwaethaf, mae gen' i olwg ar rywbeth, ac y mae gen' i eisiau i chwi, Sarah, roi Susi dan ei warnin i beidio sôn gair wrth neb am ddim a ddywedais i heno mewn tipyn o fyrbwylldra. Wedi i chwi fyn'd i'r gwely fe fu Mr. Huws, Siop y Groes, yma. Gŵr ieuanc rhagorol iaw'n ydyw Mr. Huws—wedi gwneud yn dda —ac yr wyf yn meddwl, yn wir, yr wyf yn siwr, y bydd ef yn foddlon i ymuno efo ni yn y fentar newydd. Un neu ddau eraill fel Mr. Huws, a ni fyddwn yn all right. Mae o'n wan—yn wan iawn—wedi gorweithio ei hun yn ddiamheu. Wnewch ohwi ddim siarad, Sarah? "

"I be y gna i siarad? 'does gen' i 'ddim synwyr.'"

"Dyna ddigon, dyna ddigon, Sarah, peidiwch a sôn am hyn yna eto. Yr oeddwn yn ofni fy mod wedi eich brifo, Sarah, a mae'n ddrwg gen' i am hyny, neu, mewn geiriau eraill, yr wyf yn edifarhau, ac mae'r Gair yn dweyd, 'Na fachluded yr haul ar eich digofaint,' ac fe ddylem, yn wir, yr wyf yn gostyngedig feddwl eich bod chwi a minau, hyd yn hyn, wedi ceisio, hyd yr oedd ynom, gadw at reolau y Gair, ac hyd yn nod yn yr amgylchiad hwn, er mor anhyfryd ydyw, i mi yn neillduol, yr wyf yn meddwl y gellwch gadw at y rheol a grybwyllwyd, yn gymaint a bod yr haul wedi machludo cyn i chwi ddigio, ac na chaiff, mi obeithiaf, fachludo ar eich digofaint. A ydach chwi wedi maddeu i mi, Sarah, yn ol fel y mae y Gair yn anog? "

"'Dydw i ddim wedi madde i chi, Richard, am y nghadw i yn t'w'llwch sut yr oedden ni'n sefyll yn y byd. A be ddeidiff pobol pan ddon nhw i wybod am ein tlodi ni, a nine wedi cario 'mlaen fel ryden ni? "

"Wel, chwi wyddoch, Sarah, mai dyna ydyw fy natur i— 'dallai i ddim wrtho. Mae o ynof erioed er yn blentyn—sef gordynerwch—gor—dynerwch. Fedrais i erioed ladd hyd yn nod wibedyn, ac yr ydw i yn cofio'n burion pan—welsoch chwi mo nghap nos i, Sarah? O, dyma, fo!—yr ydwyf yn cofio yn dda, meddaf, pan fyddai nhad yn lladd cyw iâr, neu, yr hyn oedd waeth, yn lladd mochyn, y byddwn yn gorfod myn'd