'Rydw i'n cyfadde, Susi, na chlywes 'rioed mo dy dad yn siarad 'run fath, ac ar y pryd mi ddaru 'mrifo i'n arw. Ond 'rydw i'n madde'r cwbwl iddo ar ôl i glywed o'n 'sbonio 'i hun. Yn wir, mi fase'n werth i ti glywed o bore heddiw 'n deud 'i deimlad—'roedd yn ddrwg gynno fo. Wydde fo ddim be i'w 'neud iddo fo'i hun. 'Chlywes i neb erioed—hyd yn oed yn y seiat—yn deud 'i brofiad yn fwy rhydd a melys. Wrth sôn am y seiat, mi fase'n dda gen i bydase dy dad yn fwy rhydd yn y seiat, fel 'rydw i wedi deud wrtho lawer gwaith. Mae ganddo ddawn at hynny, a mi fydde'n drêt 'i glywed o, a mae isio mwy o hynny yn y dyddie yma, yn sicir ddigon."
"Mi fydde gan 'y nhad brofiad rhyfedd."
Bydde, wel di, a mi fydde. Mae o wedi gweld cymin, ac wedi cymysgu cymin efo pobol annuwiol, ac wedi cael ei demtio gymin gan y byd, y cnawd, a'r diafol, fel 'roedd o'n deud, ac eto wedi cael nerth i ddal trwy'r cwbwl."
"Be bydae o'n digwydd deud y profiad a gawson ni ganddo neithiwr, 'mam?"
"Paid â siarad yn wirion, da ti. Mi wyddost o'r gore nad oedd dy dad ddim fel y fo'i hun neithiwr, a 'rydw i'n fecsio 'nghalon na faset ti'n i glywed o'n rhoi rheswm am bopeth. 'Roedd yn biti gen 'i glywed o mor edifeiriol, a 'roedd ganddo 'Sgrythur ar bopeth. Ond dene oeddwn i yn mynd i'w ddeud—rhaid i ni 'neud yn fawr o Mr. Huws, achos 'roedd dy dad yn deud y bydde'r cwbwl yn dibynnu arno fo wrth gychwyn y gwaith newydd, gan fod Mr. Huws mor gefnog. Ond mi ofalith dy dad, mi wn, i Mr. Huws gael 'i arian yn eu hôl gydag interest."
"Os oes gan Enoc Huws arian, fel y mae'n ddiame fod, mi faswn i'n ei gynghori i gymryd gofal ohonynt, 'mam."
"Llawer wyddost ti am fusnes. Be ddoe o'r byd, fel y clywes i dy dad yn deud, bydae pawb yn cadw 'u harian a neb yn mentro? A wyt ti'n meddwl bod dy dad a Mr. Huws mor wirion â dechre gwaith newydd a