Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/106

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gwario'u harian, oni bae eu bod nhw'n siŵr y can' nhw'u harian yn ôl a llawer chwaneg?"

"Mi wn hyn, 'mam, nad oes gan 'y nhad, yn ôl 'i eirie 'i hun, ddim arian i'w gwario na'u colli, ac os bydd Enoc Huws yn ddigon dwl i godlo hefo gwaith mein, y bydd ynte'n fuan yr un fath, neu mae'n rhyfedd gen i."

"Be sydd arnat ti, dywed? on'd oes ene lawer wedi 'u gneud yn fyddigions wrth fentro?"

"Oes, dyna Hugh Bryan a William Denman!"

Nage, nid Hugh Bryan a William Denman, er mor sharp wyt ti! Rhaid i rwfun golli, ne mi fydde pawb yn fyddigions. A mi glywes dy dad yn deud nad oedd gan Hugh Bryan ddim busnes i fentro."

"Ie, ar ôl iddo wario'r cwbwl."

Arno fo 'roedd y bai am hynny; a be wydde dy dad faint oedd 'i gwbwl o."

Gwydde o'r gore."

Dyma ti, Susi; bydae dy dad yn dy glywed di'n siarad fel ene, mi gnocie dy ben di yn y pared!"

"Mi gnocie beth digon gwag yn y pared, byd a'i gŵyr."

Wyddost ti be, Susi, 'rwyt ti'n siarad fel ffŵl!" Thank you, 'mam" (Susan yn crio'n hidl).

"Susi, mae'n ddrwg gen i mi arfer y gair ene. Paid â chrio a bod yn wirion. Ond yn wirionedd, mae rhw gyfnewidiad rhyfedd wedi dwad drostot ti: 'chlywes i 'rioed monot ti o'r blaen yn siarad yn amharchus am dy dad. Mi wyddost na fu 'rioed glyfrach tad na gwell tad, a mae o'n 'y mrifo i fwy nag a fedra i ddeud dy glywed di'n siarad fel ene. Gweddïa am ras i weld dy ffolineb, 'y ngeneth bach i. Mi wn fod gen ti flys wastad, bydae ti'n gwbod sut, rhoi Hugh Bryan ar draws dannedd dy dad, a 'rydw i'n meddwl y gwn i'r rheswm am hynny, ond 'roeddwn i'n credu dy fod ti bron ag anghofio'r gwiriondeb hwnnw."

Anghofia i byth mono, 'mam. Ac erbyn hyn 'rydw i wedi cael gole newydd ar y cwbwl. Mi wn na ddaru