Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/107

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mi 'rioed gymryd interest ym Mhwll y Gwynt—wyddwn i ddim amdano ond fel 'roeddwn i'n digwydd gwrando ar ambell air a ddywedai 'nhad wrth bobl eraill. Ond 'roedd 'y nghalon bron torri pan dorrodd Hugh Bryan i fyny ar ôl colli 'i arian i gyd yn y Gwaith. Ond 'roeddwn i'n credu nad oedd dim bai ar fy nhad. Ond be ddeudodd o neithiwr? ddeudodd o ddim 'i fod o'n gwybod o'r dechrau nad oedd ene ddim plwm ym Mhwll y Gwynt? Ac eto 'roedd o'n gallu edrach ar Hugh Bryan yn taflu ei arian i ffwrdd nes iddo golli'r cwbwl, a mae o'n dal i adael i Mr. Denman 'neud yr un peth o hyd. Ydi peth fel hyn yn onest, 'mam?"

"Mi wela, fy ngeneth, dy fod tithe fel finne wedi camddallt dy dad, a mi wn mai ni ddaru gamddallt, ac nid y fo gamddeud. Yrwan y mae o'n gallu deud nad oes ene ddim plwm ym Mhwll y Gwynt, ond wydde fo mo hynny hyd yn ddiweddar. Sut y galle fo wybod? rho dy reswm ar waith. Er mor glyfar ydi o 'does dim rheswm i neb ddisgwyl i hyd yn oed dy dad wybod be sydd ym mherfedd y ddaear nes iddo fynd yno i chwilio a chwilio'n fanwl. Ac er bod gynno fo idea go lew—gwell na neb arall, mi wn—lle mae plwm i'w gael, mae dyn fel fo yn misio weithie."

"Peth rhyfedd iawn, 'mam, i ni'n dwy gamddallt 'y nhad. Ond mae'n dda gen i glywed mai fel yna 'roedd hi—os fel yna 'roedd hi hefyd."

"'Does dim os amdani, Susi, ond oedd dy dad yn deud â'i dafod 'i hun mai fel yna yr oedd, a sut y medri di feddwl fel arall? Bydae pawb yn y byd 'ma mor onest â dy dad, fe fydde golwg arall ar bethe yn bur fuan, a mi fydde. 'Does gynnon ni, mwy na neb arall, wyddost, ddim lle i ddisgwyl cael popeth fel yden ni'n dymuno. Ac yn y long run fydde fo ddim er ein lles. 'Cheir mo'r melys heb y chwerw, medde'r hen air, ac y mae'r cwbwl er ein lles ysbrydol, fel 'roedd dy dad yn deud. Os cei di fyw i f'oed i —— Ar hyn daeth y forwyn i mewn.