Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/114

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

na fedrai neb ei edliw oedd gonestrwydd. A dene be ydi o hefyd, neu 'rydw i'n idiot. 'Roeddwn i'n meddwl bod 'y nhad yn berffaith onest, a mi fydde'n well gen i farw na ffeindio nad ydi o ddim. Ond y mae rhywbeth yn 'y nghorddi i, chwedl 'y mam—mae meddyliau drwg lond 'y nghalon i. Gobeithio 'y mod i'n methu. Ddaru mi gamddallt? Gobeithio. Ond mi wnes un mistake—mi feddylies fod 'y nhad a 'mam wedi bod yn planio gneud match rhyngof i ac Enoc. Wn i ddim o b'le daeth 'y meddwl i mi os nad o vanity."

vanity. O, vanity felltith! os caf fyw, mi'th groga di gerfydd corn dy wddw, mi gymra fy llw! Beth bynnag ddaw ar ôl hyn—beth bynnag fydd ein hamgylchiadau ni—fydd ene ddim chwaneg o Humbug yn Susan Trefor. Na, dim Humbug, chwedl Wil, druan."