Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/117

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddiwaetha'n y byd 'roedd yr hen Feti William yn gofyn i mi: Tomos Bartle,' medde hi, ydech chi'n meddwl bod cadw mochyn yn talu i chi?' a 'be finne: Bydae pawb yn talu cystal â'r mochyn mi 'naen y tro, Beti. Weles i 'rioed fochyn na thale fo, ond mi weles ambell wraig na thale hi byth.' 'Roedd arni ddeuswllt i mi am drwsio pâr o sgidie es gwn i bryd, wyddost, a mi ges siawns i roi pwyth i'r hen feuden, a welest ti 'rioed mor chwim y trodd hi'r stori. Ond rhyngot ti a fi, 'dydw i ddim yn meddwl bod cadw mochyn yn talu, os ei di gyfri popeth a rhoi pris ar bob peth 'rwyt ti'n 'i neud. I ddechre, 'dydi o ddim yn talu i ddyn sy'n rhy falch i nôl baich o wellt ac i garthu'r cut. A 'dydi o ddim yn talu i ddyn heb gydwybod i roi bwyd priodol iddo fo; achos ma'n rhaid i'r mochyn, wyddost, fel rhw ddyn arall, gael bwyd priodol cyn y daw o byth yn 'i flaen. Ond dyma ydw i'n ddeud i ddyn tlawd—dyn wrth 'i ddiwrnod gwaith—na neith o byth ddim byd gwell na chadw mochyn, yn enwedig os bydd tipyn o foron y maes a dalan poethion yn tyfu yn agos i'w dŷ o. Yn ôl 'y meddwl i, a rydw i, o ddyn cyffredin, wedi magu cymin o foch â neb yn y wlad ma—ma cadw mochyn yn talu'n well o lawer na'r sefins banc. Dyma ti'n meddwl am ddyn yn pendrafynu byw yn gynnil a rhoi ei arian yn y sefins banc. Dywed fod o'n safio swllt yr wsnos. O'r gore. Ambell wsnos mi fydd wedi colli diwrnod—ne brynu rhwbeth na fydd mo'i isio, a mi geiff y banc gymryd 'i siawns, a weles di 'rioed lai fydd yno erbyn diwedd y flwyddyn. Ond, bydase gan y dyn fochyn a chydwybod i'w ffidio'n dda, mi fase'n bownd o morol am fwyd iddo dros iddo fod ar lai 'i hun. Peth arall—'dydi dyn ddim yn licio mynd â rhw dreifflach i'r banc, ac os trîth o'u cadw nhw yn y tŷ, mae rhw aflwydd o hyd yn dwad i'w cymryd nhw i ffwrdd. Glywest di am Ned Jones es talwm yn trio cadw arian yn y tŷ? Naddo? Wel, i ti, mi bendrafynodd, un tro, roi'r baco heibio a hel tipyn heb yn wbod i'r wraig. Deuddeg swllt odd 'i gyflog o,