Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/116

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i gyrion y sir. Dichon, ar ddamwain, i'r newydd ddisgyn ar glyw rhywrai ddeng milltir oddi yno, a dichon iddynt ddweud, "Piti mawr!" Ond i'r mwynwyr truain oedd wedi arfer dibynnu ar Bwll y Gwynt am eu cynhaliaeth, yr oedd i'r Gwaith sefyll yn amgylchiad prudd a chwerw iawn. Yr oedd eu cyflogau, ŵyr dyn, ar hyd y blynyddoedd wedi bod yn druenus o fychain, prin yn bedwar swllt ar ddeg yr wythnos, ond dyna'r gorau y gallai Capten Trefor, dan yr amgylchiadau, ei fforddio iddynt. Wrth lunio'r gwadn fel bo'r troed, yr oeddynt hwythau wedi gallu byw ar hynny. Trigent tu allan i gylch y bwrdd lleol, ac felly, er bod y cut yn fynych o fewn llai na phum llath i'r tŷ, yr oeddynt yn gallu cadw mochyn, a dalai'r rhent. Yr oedd Thomas Bartley wedi pregethu iddynt am lawer o flynyddoedd —yn enwedig ar ddyddiau ffair, mai buddiol i ddyn tlawd gadw mochyn, ac yr oedd ffrwyth amlwg i'w weinidogaeth. Er mai rhyw ddau, neu dri fan bellaf, o foch a brynai Thomas yn ystod y flwyddyn, yr oedd ei bresenoldeb ym mhob ffair yn anhepgor. Anfynych y rhyfygai neb o'r cymdogion brynu porchell neu 'storyn mewn ffair heb ymgynghori â Thomas Bartley, ac os gwnaent, odid na chanfyddent yn fuan mai bargen ddrwg oedd. Yr oedd Thomas fel hyn yn colli chwe diwrnod clir mewn blwyddyn i wasanaethu ei gymdogion heb un geiniog o dâl. Rhaid cydnabod y byddai Thomas, ar adegau, yn sylweddoli gymaint o amser yr oedd yn ei golli i wasanaethu pobl eraill, ac yn penderfynu weithiau nad âi byth i ffair ond i brynu mochyn iddo ef ei hun. Ond pan ddeuai diwrnod ffair dechreuai ei gydwybod ei gyhuddo, dywedai: "Barbra, fedra i yn 'y myw las fod yn gyfforddus heb fynd i'r ffair," ac i'r ffair yr âi yn sionc ddigon.

"Mi glywi rw bobol yn deud mai'r peth gwriona ar chwyneb y dduar ydi cadw mochyn," meddai Thomas, un diwrnod," ac yr ydw i wedi notisio wastad ma pobol ddiog, ddi—sut at fyw, ydi'r rheini sy'n deud felly. Doe