am y dyfodol yn nhiriondeb, gallu, a dyfeisgarwch Capten Trefor. Chwarae teg i'r Capten, nid oedd yntau yn fyr o drwsio lampau eu gobaith. Prin y gallai fyned o'i dy na chyfarfyddai â rhyw weithiwr neu'i gilydd, a drôi lygad pryderus ato, gan ddisgwyl rhyw air o obaith. Edrychai'r Capten arno gyda llygad tosturiol—cymerai afael yn gartrefol yn lapel ei got a dywedai yn fwyn :
Wel, Benjamin bach, mae pethau'n ddifrifol onid ydynt? Ond mi wyddwn ers tro mai i hyn y dôi hi. Beth arall oedd i'w ddisgwyl, gan na chawn fy ffordd fy hun o drin y Gwaith yn y modd gorau? Ond peidiwch â rhoi'ch calon i lawr, Benjamin, mi dry rhywbeth i fyny rai o'r dyddiau nesaf yma. Gawsoch chwi fwyd, Benjamin, heddiw? Wel, wel,—rhoswch—cymerwch y nodyn yma ac ewch at Miss Trefor," a thynnai'r Capten ddarn o bapur o'i boced ac ysgrifennai arno: "Dear Susi—give this poor devil a bite of something to eat." Digwyddai peth fel hyn bron bob dydd. Ymdrechai'r Capten godi ysbryd y gweithwyr, ac anfynych y methai loywi gobaith ambell un oedd ar ddarfod amdano. Mynych y cyterchid ef gan y masnachwyr oedd wedi ac yn trystio 'r gweithwyr am ymborth, Capten Trefor, ydech chi'n meddwl bod gobaith i Bwll y Gwynt ail gychwyn?" Syr," atebai'r Capten, "ni fynnwn er dim a welais greu gobeithion gau. Nid peth amhosibl ydyw i Bwll y Gwynt ail gychwyn, ond y mae hynny yn bur annhebyg. Os ail gychwynnir ni fydd â wnelwyf i ddim ag ef ond ar un telerau—sef y caniateir i mi fy ffordd fy hun, a chwi wyddoch, Mr. Jones, mor anodd ydyw i ddyn—pan na fydd ond gwas i'r Cwmpeini—gael ei ffordd ei hun er i'r ffordd honno fod yr un orau. Fel mater o ffaith, syr, pe cawswn i fy ffordd fy hun, fe fuasai Pwll y Gwynt heddiw nid yn unig yn mynd, ond hefyd yn talu yn dda i'r Cwmpeini. Ond rhyngoch chwi a fi—dim pellach just yrwan, Mr. Jones?—rhyngoch chwi a fi, mae fy llygad nid ar Bwll y Gwynt, ond ar rywle arall. Cewch glywed rhywbeth rai o'r dyddiau