Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/123

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

nesaf. Mewn cymdogaeth fel hon, sy mor gyfoethog mewn mwynau, fe egyr Rhagluniaeth ryw ddrws o ymwared yn fuan. Mewn ffordd o siarad, nid ydyw hynny, i mi yn bersonol, nac yma nac acw. Ar ôl yr holl helynt, y pryder a'r siomedigaethau, mae'n bryd i mi gael gorffwys. Ond sut y medraf orffwyso tra na allaf fynd allan o'm tŷ heb gyfarfod â degau o ddynion truain yn segura, ac nid hynny yn unig, ond yn dioddef angen? Na, syr, er fy mod wedi cyrraedd yr oedran hwnnw pryd, mewn ffordd o siarad, yn ôl trefn natur, y dylai dyn gael gorffwys a hamdden i feddwl am bethau pwysicach ac ymbarotoi ar gyfer y siwrnai fawr sy'n ein haros oll—pa fodd y medraf orffwyso? Nid wyf yn anghofio, syr, eich bod chwi, ac eraill sydd yn y cyffelyb amgylchiadau, o'ch caredigrwydd, wedi coelio 'r gweithwyr, druain, â digon o ymborth i gadw corff ac enaid wrth ei gilydd—nid wyf yn anghofio, meddaf, fod arnoch eisiau eich arian—hynny ydyw, nid am na ellwch wneud hebddynt—ond am fod yn iawn i chwi eu cael. Na, syr, gyda thipyn o ysbryd anturiaethus ar ran y rhai sydd wedi llwyddo tipyn yn y gymdogaeth, a bendith Rhagluniaeth, fe fydd golwg arall ar bethau ymhen ychydig wythnosau, Mr. Jones."

Fel hyn, yn wyneb yr amgylchiadau cyfyng a'r tlodi mawr, yr oedd y Capten yn cadw'r mwynwyr ac eraill ar flaenau eu traed mewn disgwyliad am rywbeth. Yn y cyfamser, ymwelai Enoc Huws yn fynych â Thy'n yr Ardd, ac ni chaeodd y cymdogion eu llygaid rhag gweled hyn. Sylwyd fod Enoc mewn byr amser wedi ymdwtio ac ymloywi cryn lawer. Yr oedd y gŵr difrifol, y masnachwr cefnog, ond diofal ynghylch ei wisgiad, wedi sythu, ymhoywi, ac ymdecáu nid ychydig. A rhyfeddach fyth, gwelwyd fod Miss Trefor hithau, wedi dofeiddio, sobreiddio, ac wedi taflu ymaith ei holl addurniadau. Pa gasgliad arall y gallai'r cymdogion ddyfod iddo heblaw fod Enoc Huws a Miss Trefor yn eu cymhwyso eu hunain i'w gilydd? Am ddyddiau rai ni bu i'r fath fynd a dyfod