Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/124

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i yfed te ymhlith y cymdogesau er mwyn cael cyfle i drin yr achos. Dechreuid pob ymdrafodaeth a fu ar achos Enoc drwy gymryd yn ganiataol ei fod ef a Miss Trefor wedi eu dyweddïo. Cydolygid yn gyffredin fod Miss Trefor yn llawer mwy ffortunus yn ei dewisiad nag Enoc. Cyfaddefid gydag unfrydedd fod Enoc yn gefnog, ac yn un tebyg o wneud gŵr da, tra na feddai Miss Trefor ddim i'w ganmol ond prydferthwch canolig, nad oedd wedi'r cwbl o un gwerth tuag at fyw, a hefyd "ideas" ffôl—neu, mewn geiriau eraill—falchder penwan. Pryderai'r cymdogesau hyn a allai diwydrwydd ac ymroad a llwyddiant masnachol Enoc gyfarfod â drych—feddyliau Miss Trefor. Ysgydwai ambell hen ferch anobeithiol ei phen, "er nad oedd hi yn dweud dim, nac yn hidio dim pwy a gymerai Enoc Huws yn wraig iddo." Ni phetrusai ambell fam â thyaid o ferched anfarchnadol ganddi ddatgan ei meddwl yn groyw "ei bod wedi ei siomi yn fawr yn Enoc Huws—ei bod wedi arfer edrych arno fel dyn o farn, ac yn sicr fel dyn oedd yn grefyddol. Ond mai felly y digwydd yn aml—y rhai yr oeddid yn meddwl mwyaf ohonynt oedd yn ein siomi fwyaf.' Dywedid bod rhai o'r mamau hyn hyd yn oed wedi newid eu barn am y te a werthid gan Enoc, ac yn dweud y byddai raid iddynt "drio rhyw siop arall." Yr oedd Enoc wedi gwneud enw iddo'i hun am de da, ac wedi i'r mamau "drio rhyw siop arall," dychwelasant wedi'r cwbl o un i un i Siop y Groes.