i ddistawrwydd doeth, gan dynnu mwy o fwg o'i getyn a throi clust fyddar at bob cais a chwestiwn. Wedi i Bwll y Gwynt sefyll, deuai ambell fwynwr o eithafion y gymdogaeth—fel y daeth brenhines Seba gynt at Solomon, i wrando doethineb Sem, ac er na ddychwelai gyda'r un argraff ag a adawyd ar feddwl yr hen chwaer o Seba, nid oedd hyder Sem Llwyd yn adnoddau ei wybodaeth a'i ddoethineb fymryn yn llai nag eiddo Selyf.
Yr annedd nesaf i dŷ Sem Llwyd oedd y Twmpath, preswylfod hen gydnabod y darllenydd, sef Thomas Bartley. Drwy fod Sem, erbyn hyn, yn segur, nid an—fynych yr anrhydeddai y Twmpath â'i bresenoldeb. Gallasai gŵr heb fod mor syml â Thomas Bartley briodoli amcanion hunanol i ymweliadau Sem. Yr oedd Thomas, fel y cofia'r darllenydd, yn ŵr diddysg, difeddwl—ddrwg, ond hynod gydwybodol a darbodus. Ar yr olwg gyntaf gadawsai argraff ar y dieithr nad oedd yno i gyd." Ond yr oedd yn Thomas Bartley ryw fath o graffter anymwybodol a diffuantrwydd eglur i bawb a'i hadwaenai. Ei nodweddion mwyaf arbennig oedd cariad at yr hyn oedd syth, union, a theg, a charedigrwydd di-ben-draw. Yr hyn oedd yn Thomas a ddeuai allan, ac nid oedd ganddo ddim stoc wrth gefn, fel y tybid fod gan Sem Llwyd. Yn wir, anfynych y gallesid cael dau ŵr mor wahanol, fel y gwelir oddi wrth yr ymddiddan canlynol, a ddigwyddodd yn ystod un o'r ymweliadau y cyfeiriwyd atynt. Yr oedd Thomas, pan ddaeth Sem i mewn, newydd orffen rhoi clem ar esgid, ac yn prysur roddi black ball arni, gan wasgu sawdl yr esgid yn erbyn ei gylla, ac yn rhwbio yn egniol nes oedd gwythiennau ei dalcen cyn dewed â bys. Gan godi ei ben a chau un llygad, a dal ymyl yr esgid rhyngddo a'r gannwyll, ebe Thomas:
"Wel, Sem, lle buoch chi'n cadw, ddyn? 'Rydw i wedi bod yn ych disgwyl chi drw'r dydd. A chithe ddim yn gweithio, fase waeth i chi roi'ch clun i lawr yma