na phendwmpian gartre. Ewch at y tân, Sem, mi fydda wedi gorffen yr esgid yma mewn dau funud, ag ono mi gawn smogen a mygòm."
"Raid i ddyn sy'n medru darllen, er i fod o allan o. waith, ddim pendwmpian, Thomas," ebe Sem.
"Twbi shwar," ebe Thomas, 'rydw i'n rhy at o feddwl bod pawb 'run fath â fi fy hun. Os na fydda i'n gweithio, ne'n smocio, ne'n byta, mi fydda'n cysgu; dyna'r pedwar peth ydw i'n neud yn yr hen fyd yma.
Rhw fyd go sâl fydde fo bydae pawb 'run fath â chi, Thomas," ebe Sem.
"Siampal!" ebe Thomas, "ac eto, 'rydw i reit cyfforddus, a 'dydw i ddim yn gweld y rheini sy'n sgolars yn rhw helynt o bethe—'rydw i lawn gystal fy off â'r rhan fwya ohonyn nhw—diolch i'r Brenin Mawr am hynny. Achos os ceiff dyn fwyd a diod ac iechyd, be chwaneg sy gynno fo isio?"
"Rydech chi'n anghofio, Thomas," ebe Sem, "fod gan ddyn feddwl ac enaid, ac y mae isio porthi'r enaid cystal â'r corff."
"Twbi shwar, ydech ddim yn meddwl 'y mod i mor ddwl â hynny, Sem? Achos i be 'ryden ni'n mynd i'r 'capel, 'blaw i gael profijiwns i'r ened? Deud yr ydw i, Sem, na feder dyn ddim byw ar ddoethineb. Achos dyma chi a finne, 'rwan, y fi'n ddyn dwl a chithe'n sgolor, ac er 'y mod i'n blwc hŷn na chi, mi gymra fy llw y pwysa i ddau ohonoch chi, Sem, er ych holl ddoethineb, achos 'rydech chi'n edrach mor dila, ddyn, a bydaech chi'n byw ar bot pâst," ebe Thomas.
Yn y fan hon goddiweddwyd Sem gan bangfa ofnadwy o besychu, a chyn i'r bangfa fynd drosodd yr oedd Thomas wedi rhoi ei waith o'r neilltu ac wedi eistedd gyferbyn â Sem, yr ochr arall i'r tân, ac yn edrych arno yn syn, ac ebe fe:
"Wyddoch chi be, Sem? 'daswn i ddim yn ych nabod chi, a gwbod bod ych chi 'run fath ddeng mlynedd yn ôl ag ydech chi 'rwan, faswn i'n rhoi'r un ffyrling am ych