bywyd chi. Wel, ond ydech chi'n pesychu, ddyn, fel bydae chi'n mynd i farw. Cymrwch smogen, Sem, gael i'r pwl fynd trosodd. Barbra, gwna paned o goffi i ni, a thipyn o facwn i iro tipyn ar du mewn Sem yma, ne chawn ni ddim byd ohono fo, gei di weld. Sem, wyddoch chi pwy roth y blwch baco ene i mi? Darllenwch y peth sydd ar y caead."
"Mi wela," ebe Sem, gan ddarllen yr argraff ar y caead: "Presented to Thomas Bartley, Esq., by his —humble admirer, W. Bryan."
"Pry garw oedd y bachgen hwnnw," ebe Thomas, "ysgwn i lle mae o 'rwan? Sem, 'rydw i wedi meddwl gofyn i chi gantodd o weithie, ond 'y mod i'n anghofio—pwy ddisgyfrodd y baco? 'Ddyliwn fod chi'n gwbod, Sem?"
"Indigo Jones," ebe Sem.
"Ai e!" ebe Thomas. "Rhw enw go od hefyd, mae fel bydae 'i hanner o'n Gymro. Ai Cymro oedd o, Sem?"
"Ie, debyg," ebe Sem.
"Wel, bendith ar 'i ben o, meddaf i! Oes gynnoch chi rw aidî, Sem, faint o amser sy er hynny?" gofynnai Thomas."
"Rhw aidî?—'ddyliwn fod gen i—tua phymtheg cant o flynyddoedd yn ôl," ebe Sem.
"Dyn fo'n gwarchod!" ebe Thomas, a mae cymin â hynny, Sem? Wyddoch chi be, mae ambell i smogen wedi'i chael er hynny!"
"Oes, Thomas, i mae. Ie, tuag amser batel Waterlw y disgyfrwyd y baco," ebe Sem.
"Rhoswch chi, Sem, ydech chi'n peidio â'i phonsio hi 'rwan? Ond oedd brawd i 'nhad ym matel Waterlw pan oedden nhw'n ymladd yn erbyn Boni?"
"Hwyrach hynny," ebe Sem, "sôn yr ydw i am y fatel yn erbyn Polion, bymtheg cant o flynyddoedd yn ôl."
"Ho, deudwch chi hynny," ebe Thomas, 'chlywes i 'rioed sôn am y fatel honno. Pwy aeth â hi, Sem?"