Y ni, debyg," ebe Sem.
"Ie, 'ddyliwn," ebe Thomas. "Ond gan yn bod ni efo'r pwnc, ai gwir ydi'r stori, Sem, fod gwas yr Indigo Jones 'ma, pan welodd o'i fistar yn smocio'r tro cynta, wedi tawlu bwceded o ddŵr am 'i ben o?"
"Mae traddodiad felly'n bod, Thomas," ebe Sem, "ond welis i 'run hanesydd o ymddiried yn sôn am hynny."
"Mi greda hynny'n hawdd," ebe Thomas, "achos pwy fase'n ffasiwn ffwl? Peth arall ydw i isio 'i ofyn i chi, Sem, ym mha wlad y daru'r Indigo Jones 'ma ddisgyfro'r baco?—'ddyliwn mai yn rhai o'r gwledydd tramor ene?"
"Ie, Thomas, yn Bristol," ebe Sem.
"Ho, felly," ebe Thomas, dene sut mae cymin o o sôn am faco Bristol, ond 'dydw i'n hidio fawr amdano fo—well gen i fy hun faco Caer, ond pawb at 'i ffansi, fel y deudodd y dyn wrth roi cusan i'r gaseg. Ond dene ddigon ar nene. Y gwaetha arna i ar ôl i mi gael gwybodaeth i sicrwydd ar bethe fel hyn, ydi 'mod i'n 'u hanghofio nhw'n union. Ond deudwch i mi,—mae o'n taro i'm meddwl i—oedd ene ddim rhw saer maen go glyfar es talwm o'r enw Indigo Jones, ddaru neud tŵr Llunden, Pont Lanrwst, Castell Rhuddlan, Castell Caernarfon, a lot o bethe fel ene, mae rhw aco gen i glywed am ddyn tebyg arw i'r Indigo Jones 'ma?"
"Mae'r pethe 'r ydech chi'n sôn amdanyn nhw, Thomas," ebe Sem, "wedi 'u gneud cyn y cyfnod Cristionogol o dan yr hen oruchwyliaeth—rai miloedd o flynyddoedd cyn i Indigo Jones gael ei eni, ac felly 'does dim sail i gredu'r hanes."
"Gwarchod pawb!" ebe Thomas, "ac fel y clywch chi bobol yn siarad sy ddim yn sgolors, nac yn gwbod dim am hanesyddiaeth! Ond dowch i ni ddwad yn nes gartre, Sem, achos yr ydw i wedi sylwi pan eith pobol i sôn am bethe sy cyn co dyn nad ydyn nhw ddim yn