Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/130

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

byticlar yr ôl am rhw fil neu ddwy o flynyddoedd. Deudwch i mi, oes ene rw sein i Bwll y Gwynt ene ail gychwyn?"

"Dim, Thomas, cyn belled ag y gwn i, ac yr ydw i'n gwbod cymin â neb ar y pen ene," ebe Sem.

"Nag oes, 'ddyliwn," ebe Thomas, "y syndod ydi fod o wedi dal cyd. Wyddoch chi be, Sem, mae'n rhaid bod yr hen Waith ene wedi costio dialedd o arian i rwfun, a mi wranta fod lot ohonyn nhw, erbyn hyn, yn rhegi'n braf ac yn barod i dawlu'r hen Drefor i lawr y siafft, achos mi gymra fy llw mai fo sy wedi 'u boddro nhw."

"Boddro nhw, Thomas? be 'dech chi'n i feddwl? Bydase'r Capten wedi cael 'i ffordd ei hun—a fy ffordd inne hefyd, o ran hynny—mi fase Pwll y Gwynt yn talu'n iawn, achos y mae yno wlad o blwm, bydasen nhw'n mynd ato yn y ffordd iawn," ebe Sem.

"Gwlad o blwm, Sem? Peidiwch â siarad nonsens, ddyn glân. Os oes yno wlad o blwm, pam na fasech chi'n dwad â thipyn ohono fo i'r lan? Wyddoch chi be, Sem, 'dydw i ddim yn meddwl fod lot o bobol mwy twyllodrus na meinars ar chwyneb y ddaear. Weles i 'rioed waith mein na ddeude'r meinars fod yno wlad o blwm, ond eu bod nhw heb fynd ato, ne fod y dŵr yn 'u rhwstro nhw, ne rhw godl fel ene. Ac os bydd Gwaith wedi stopio, mi fydd y bai ar bawb 'blaw nhw 'u hunen, fforsŵth. Wyddoch chi be, Sem, mi fydd gynnoch chi'r meinars 'ma aped mawr i'w roi rw ddiwrnod. A 'rydw i'n credu yn 'y nghalon fod yr hen Drefor ene, er 'i fod o'n aelod efo ni, cyn waethed sort â'r un a welis i, ond 'i fod dipyn yn respectol. Creuddwch at y bwyd, Sem."

"Pob parch i chi yn ych tŷ'ch hun, Thomas," ebe Sem, "ond wyddoch chi fawr am waith mein. Hwyrach y synnwch chi, Thomas, pan ddeuda i fod meinars yn amal yn gwbod i sicrwydd fod digon o blwm yn y fan a'r fan, ond na fedran nhw ddim mynd ato, ac yn amal er y gwyddan nhw y gallan nhw fynd ato, na chân nhw mo'u ffordd eu hunen i fynd ato gan rwrai eraill sy'n 'u