y byddai'r practices—buasai hynny'n rhy awgrymiadol, ond yn nhŷ'r Eos ei hun. O ganlyniad, pan ddaeth y digwyddiad galarus yr oedd yr Eos a'i gôr yn barod.
Byth wedi hynny byddai'r Eos—gan wybod ei fod ef ei hun a'i gôr yn barod i ganu dernyn rhagorol o gerddoriaeth, na allent â phriodoldeb ei ganu ond ar achlysuron neilltuol—nid yn anfynych, pan fyddai'r pregethwr yn llefaru, yn edrych a oedd rhyw arwyddion yng ngwedd rhywun fod y gelyn diwethaf wedi ei farcio. Os byddai pawb yn edrych yn iach a hoyw, trôi'r Eos ei fyfyrdod at y dôn oedd i'w chanu ar ddiwedd yr oedfa, a hawdd oedd gweled ar ei geg ei fod yn ei chwibanu yn ei frest. Ni waeth i mi gyfaddef—bûm am amser yn aelod o gôr detholedig yr Eos, a dyna sut yr wyf yn gwybod yr holl fanylion. Yr oedd yn ddealledig yn ein plith ni ein hunain os byddai rhywun o aelodau cynulleidfa Bethel yn gwaelu o ran iechyd, fod private practice i'w gynnal yn nhŷ Eos Prydain bob nos Sul, ond os byddai pawb yn iach, cai "Vital Spark" lonydd am dymor. Yr wyf yn cofio'r Eos mewn penbleth fawr un tro. Perthynai i gynulleidfa—nid i eglwys Bethel—ŵr hynaws, call, a chlyfar yn ei ffordd ei hun, o'r enw Tom Jones. Byddai Tom yn gyson iawn fel gwrandawr, ond yr oedd yn herwheliwr enbyd. Bu "o flaen ei well" fwy nag unwaith. Un noson daliwyd ef yn herwhela ar ystad y Plas. Nid oedd Tom yn fodlon i golli ei ysglyfaeth. Llwyddodd i ddyfod yn rhydd o'u gafaelion; ond oherwydd ei fod wedi gorfod ymladd yn erbyn dau, dioddefodd ysigiad tost, o'r hwn y bu farw. Yn awr, y cwestiwn a flinai'r Eos oedd a oddefid—nid a ddylid—canu "Vital Spark." Fodd bynnag, cawsom practice, a rhoddwyd y cwestiwn o flaen Dafydd Dafis. Penderfynodd Dafydd y cwestiwn mewn eiliad, a gofidiai'r Eos na buasai Tom farw dan amgylchiadau gwahanol. Tra'r oeddwn yn aelod o gôr yr Eos, llawenhawn nad