Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/140

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd Wil Bryan gartref, oblegid gwyddwn na buasai ef yn arbed dadlennu ein hymbygoliaeth.

Gwrthgiliais o gôr yr Eos, ac fel hyn y bu. Cymerwyd fi yn wael gan y slow fever. Trigai'r Eos yn y tŷ nesaf ond un i'n tŷ ni. Oddeutu deg o'r gloch, y nos Sul cyntaf o'm hafiechyd, yr oeddwn yn wael iawn, a neb ond fy mam yn fy ngwylio. Yr oedd yn noswaith dawel, ac, erbyn hyn, nid oedd neb yn tramwy'r heol. Darllenai fy mam ei Beibl iddi hi ei hun. Yn y man clywn sŵn canu, ac er na allwn glywed y geiriau, gwyddwn ar y gerddoriaeth mai

Lend, lend your wing,
I mount, I fly;
O grave, where is thy victory,
O death, where is thy sting?

oedd y geiriau a genid.

"Oes rhywun o bobl y capel yn sâl heblaw fi?" gofynnais i'm mam.

"Nag oes, 'ngwas i, pam 'rwyt ti'n gofyn?" meddai fy mam.

"O, dim," ebe fi. Ond truenus iawn fu arnaf y noswaith honno, oblegid gwelwn fod yr Eos a'i gôr am fy nghladdu ar unwaith. Yr oedd arwyddion gwella arnaf cyn y Sul wedyn, ac er i mi wrando'n ddyfal, ni chlywn ddim o "Vital Spark." Pan ddeuthum o gwmpas, dychmygwn fod yr Eos yn edrych yn siomedig, ac nid euthum byth wedyn yn agos i'w gôr.