PENNOD XXII
Y Bugail
Ar hyn yr wyf yn cyfeirio ers meitin, ond fy mod fel ci Gwilym Hiraethog yn rhedeg ar ôl pob pryf ac aderyn a ddaw ar draws fy llwybr. Gadawodd bugeiliaeth Rhys Lewis argraff mor dda ar feddyliau aelodau eglwys Bethel, fel, yn fuan iawn ar ôl ei farwolaeth, y dechreuasant anesmwytho am fugail arall. Ac nid hir y buont cyn syrthio ar y gŵr. Digwyddodd ddyfod pregethwr na bu yno o'r blaen ar gyhoeddiad i lenwi pulpud Bethel. Yr oedd ganddo ddawn ymadrodd rhwydd a thinc ddymunol yn ei lais. Gydag Eos Prydain y digwyddai letya. Cyn myned i'r gwely y nos Sul hwnnw, ar ôl maith ymgom, gwnaeth yr Eos yn hy ar y gŵr dieithr, a gofynnodd iddo a oedd yn barod i dderbyn "galwad pe buasai un o eglwysi'r sir yn meddwl amdano fel bugail. Wedi petruso chydig, atebodd y gŵr ei fod ef yn hollol yn llaw Rhagluniaeth, os yn y cymeriad o fugail y dymunai hi iddo weithio dros ei Arglwydd, ei fod yn eithaf parod i ymgyflwyno yn hollol i'r gwaith; mewn gwirionedd, mai dyna oedd dymuniad pennaf ei fywyd. Dywedodd yr Eos wrtho fod gwir angen ar eglwys Bethel am fugail, a bod yr eglwys, dybiai ef, yn lled aeddfed i chwilio am olynydd teilwng i Rys Lewis, ond ei fod yn rhoddi'r cwestiwn, wrth gwrs, yn hollol ar ei gyfrifoldeb ei hun. Ar yr un pryd, rhoddai ar ddeall i'r pregethwr ei fod yn tybied fod ganddo farn, ac y gwyddai beth oedd barn yr eglwys, ac mai purion peth oedd gwybod pwy oedd yn agored i dderbyn galwad a phwy oedd heb fod felly erbyn yr eid ati i ddewis.
Rhag i neb feddwl fod yr Eos wedi arfer prysurdeb annoeth drwy grybwyll hyn wrth ŵr nad oedd erioed wedi ei weled o'r blaen, ac na wyddai ddim amdano, priodol ydyw hysbysu bod y gŵr dieithr wedi gwneud sylwadau hynod o ffafriol ar ganu cynulleidfaol Bethel, ac wedi dangos yn eglur, yn nhyb yr Eos, ei fod yn