Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/142

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gwybod y gwahaniaeth rhwng crotchet a demi-semi-quaver. Yr oedd hyn, ym mryd yr Eos, yn beth nas ceid ond yn anfynych mewn pregethwr, ac ni allai lai na meddwl y fath gaffaeliad fuasai i eglwys Bethel gael gweinidog, nid yn unig yn gwerthfawrogi cerddoriaeth, ond yn gerddor hefyd. A chyda'r rhagolwg hwn yn llosgi yn ei fynwes, ni bu yr Eos yn brin o grybwyll y mater wrth nifer luosog o aelodau Bethel, yn enwedig y dosbarth ieuanc ohonynt. Cyn y Sul dilynol yr oedd Obediah Simon—canys dyna oedd enw y gŵr—wedi ei bwyso a'i fesur ar aelwydydd yr aelodau, ac nid yn anffafriol. Cydnabyddid yn lled gyffredinol ei fod yn bregethwr rhagorol, a derbynnid tystiolaeth yr Eos fod yn Mr. Simon ogoniant mwy nag a amlygwyd eto. A mwyaf y meddylid amdano, gorau oll a chymhwysaf oll yr ymddangosai Mr. Simon i fod yn olynydd teilwng i Rys Lewis. Dibriod oedd Mr. Simon, a heb fod yn ddirmygus o ran ymddangosiad, ac erbyn clustfeinio siaredid yn hynod ffafriol amdano gan ferched ieuainc Bethel a chan amryw o'r mamau (nid yn Israel). Bu oedran Mr. Simon yn destun cryn drafodaeth ymhlith y dosbarth a enwyd, a chytunid yn lled unfryd ei fod dan ddeg ar hugain oed. Tueddai'r gwŷr ieuainc mwyaf meddylgar a chraff i gredu ei fod yn nes i ddeugain oed, ond addefent yn rhwydd y gallai mai'r merched ieuainc oedd yn eu lle, yn gymaint â bod astudiaeth galed yn peri i ddyn edrych yn hŷn nag a fydd mewn gwirionedd, ac amlwg ydoedd fod Mr. Obediah Simon wedi bod yn fyfyriwr ymroddgar, canys gwisgai sbectol.

Ond yr oedd yn eu plith un o'r enw Thomas, a arferai ysgrifennu i'r wasg, ac a adnabyddid wrth y ffugenw Didymus." Ni chredai ef y buasai Mr. Simon yn fyfyriwr caled, a phrotestiai mai bochau tatws laeth oedd ganddo, ac na welodd ef erioed fyfyriwr caled â bochgernau mor wridog. Ffaith hynod ydoedd fod enw y Parchedig Obediah Simon wedi ei droi a'i drafod yn nheuluoedd naw o bob deg o aelodau eglwys Bethel,