Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/143

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fel gŵr tebygol o wneud bugail rhagorol, cyn i Dafydd Dafis glywed na siw na miw am y peth. Ac mewn Cyfarfod Misol y clywodd Dafydd gyntaf am y sôn.

Ai gwir ydi'r stori, Dafydd Dafis," ebe brawd o flaenor wrtho, "ych bod chi'n debyg o alw Mr. Obediah Simon yn fugel acw?"

"Chlywes i neb yn sôn am y fath beth," ebe Dafydd. "Peidiwch â bod mor slei, Dafydd Dafis," ebe ei gyfaill," achos yr oedd Mr. Simon ei hun yn deud wrtha i ddoe ddwaetha'n y byd fod ei achos o'n debyg o ddwad o flaen eglwys Bethel yn fuan."

Trawyd Dafydd â mudandod a phoenwyd ef yn fawr. Pan ddaeth Dafydd adref, pwy oedd yn ei dŷ yn ei ddisgwyl ond y Didymus y cyfeiriwyd ato yn barod, a gyfrifid gan rai o'r brodyr fel gŵr o ymadroddion caled. Pan ddeallodd Didymus fod y sôn yn ddieithr i Dafydd Dafis, adroddodd iddo'r cwbl a wyddai am yr helynt. Cafodd Dafydd waith peidio â llesmeirio. Yr oedd bron yn anhygoel ganddo y gallasai'r siarad fod mor gyffredinol ar bwnc mor bwysig, a'r cyfan, megis, tu ôl i'w gefn ef. Arferai dybied bod yr eglwys yn gwerthfawrogi ei wasanaeth fel blaenor, ac er na choleddai syniadau uchel am ei alluoedd, yr oedd ganddo ymwybyddiaeth nad oedd yn ôl i neb am ffyddlondeb ac o wneud ei orau. Pruddhaodd, ar y pryd, wrth wrando ystori Didymus, a dechreuodd feddwl nad oedd iddo le ym marn na serch ei gydswyddog, nac yn eiddo'r eglwys. "Beth a ddywed y cyfeillion sydd yn meddu barn ar y mater?" gofynnai Dafydd i Didymus.

"Chwi wyddoch," ebe'r anghredadun, "y gellwch gyfrif y rheini ar fysedd un o'ch dwylo, a chwi ydyw'r cyntaf ohonynt i mi siarad ag ef ar y mater."

Bydae'r achos yn dwad o flaen yr eglwys, be ydi eich barn chi, Thomas, am y gŵr?" gofynnai Dafydd.

"Fy marn i ydyw," ebe Didymus, "fel y byddan nhw'n dweud mewn 'Steddfod, nad ydi o ddim yn deilwng o'r wobr, ac mai gwell ydyw gadael y pwnc i ymgeisio