Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/14

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Agorodd Elin ei hamrantau, gan ddatguddio pâr o lygaid yr edrychasai ei thad arnynt fil o weithiau gydag edmygedd. Nid ei thad oedd yr unig un oedd wedi edmygu'r llygaid hynny. Oherwydd gwynder ei hwyneb, ymddangosai llygaid Elin yn dduach, disgleiriach, a phrydferthach nag erioed. Ond yr oedd Elin, a olygai ef yn gynllun o berffeithrwydd, heb arni na brycheuyn na chrychni, fel y goleuni ei hun, yr oedd Elin wedi pechu. A chwarae teg i'w thad, ei phechod, ac nid y gwarth—er y teimlai hwnnw yn dost—oedd fel cancr yn ysu ei galon, oblegid yr oedd Mr. Davies yn ŵr manwl, crefyddol, a duwiol yn ei ffordd ei hun. Agorodd Elin ei hamrantau, fel y dywedwyd, ac edrychodd yn ymbilgar, er yn dawel,. yn llygaid ei thad. Wedi munud o ddistawrwydd, ebe hi yn floesg:

"'Nhad, 'newch chi ddim siarad â mi?"

Nid atebodd Mr. Davies air, ond dangosai gweithiadau ei wyneb a'i wddf mai ef oedd y dioddefydd pennaf.

"'Nhad," ychwanegai Elin, "yr ydw i wedi gofyn filoedd o weithiau i Iesu Grist fadde i mi, ydech chi'n meddwl y gneith o, 'nhad?"

Edrychodd Mr. Davies ar Enoc, a gafaelodd yn dynnach ym mhost y gwely, ond ni thorrodd ei lw. Dywedodd Elin eilwaith:

"Bydase mam yn fyw—a mae hi'n fyw, mi gweles hi neithiwr—a mae hi wedi madde i mi. 'Newch chi fadde i mi, 'nhad bach? Yr ydw i wedi bod yn eneth ddrwg, ddrwg, ddrwg; ond 'newch chi fadde i mi, 'nhad bach?"

Gollyngodd Mr. Davies ei afael ym mhost y gwely, gwegiodd fel meddwyn, aeth gam ymlaen, gŵyrodd, a chusanodd ei ferch unwaith ac eilwaith, a chiliodd yn ôl i'w hen sefyllfa heb dynnu ei lygaid oddi ar ei ferch, ond ni ddywedodd air. Gwenodd Elin yn hapus, ac yna trodd ei llygaid at Enoc. Megis wrth reddf, deallodd un o'r nurses, oedd fam, ei dymuniad, a gosododd wyneb y plentyn wrth wefusau oer ei fam. Ni wnaeth Enoc ond