rhochian yn gysgadlyd pan gusenid ef am y tro olaf gan ei fam. Wedi gwneud hyn, ymddangosai Elin fel pe buasai wedi darfod â phawb a phopeth, ac edrychai i fyny yn ddidor. Ni thynnodd Mr. Davies ei olwg oddi arni, a hyd yn oed pan ddaeth y meddyg, nid ymddangosai ei fod yn ymwybodol o'i ddyfod. Deallodd y meddyg ar unwaith fod Elin, druan, ar ymadael, ac ni cheisiodd ganddi gymryd y meddyglyn. Am rai munudau parhaodd Elin i edrych i fyny, yna dywedodd yn hyglyw:
"Yr ydw i'n dwad yrwan, 'mam, yrwan."
Ar ôl un dirdyniad, un ochenaid hir, ehedodd ei hysbryd ymaith.
"Mae hi wedi mynd," ebe'r meddyg yn ddistaw, gan afael ym mraich Mr. Davies a'i arwain i lawr. Da gan y meddyg oedd cyrraedd y gwaelod yn ddiogel, oblegid pwysai Mr. Davies arno yn drwm. Yr oedd gofid y tad yn arteithiol, a phan syrthiodd yn swrth i'r gadair, gwasgodd ei ben rhwng ei ddwylaw, a dolefodd yn uchel :
"O Elin! Elin! f'annwyl Elin!"
Yn ebrwydd neidiodd ar ei draed yn gynhyrfus, a thrawodd y bwrdd amryw weithiau, nes oedd y gwaed yn ffrydio o'i ddwrn; ac, fel pe buasai'n annerch y bwrdd, dywedodd yn ffyrnig:
"Enoc Huws! os nad wyt eisoes yn uffern, bydded i felltith Duw dy ddilyn bob cam o'th fywyd!"
Ail-adroddodd y geiriau ffôl amryw weithiau. Arhosodd y meddyg gydag ef nes iddo ymdawelu. Nid oedd Mr. Davies, o ran oedran, ond cymharol ieuanc—prin ddeugain mlwydd oed. Edrychid arno yn y dref fel un mewn amgylchiadau cysurus, a pherchid ef yn fawr. Yr oedd ei ferch Elin, cyn yr amgylchiad, yn ffafr pawb, hyd yn oed gan ei chydryw, peth sydd yn "ddweud mawr." Bu ei chwymp yn ergyd i ugeiniau o'i chyfeillesau a'i chydnabod, ac nid arwyddodd neb, hyd y gwyddys, foddhad yn ei gwarth. Nid felly, ysywaeth, y digwydd